Datganiad i'r wasg

Mae DVLA yn cynorthwyo cwmnïau cynhyrchu o Hollyoaks i Hollywood

Mae’n bosibl bod rhai gwylwyr wedi tybio o ble y mae eu hoff gymeriad sebon wedi cael ei drwydded yrru neu bwy sydd wedi darparu rhif cofrestru cerbyd ei gar.

This news article was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s out of date. Find out more about private (personalised) number plates.

Mae darparu rhifau cofrestru cerbyd a thrwyddedau gyrru ffug ar gyfer cwmnïau cynhyrchu yn un o nifer o wasanaethau y mae DVLA yn gwneud yn rheolaidd efallai nad yw pobl yn ymwybodol ohono.

Dros y blynyddoedd mae DVLA wedi cynorthwyo cwmnïau cynhyrchu drwy gyhoeddi trwyddedau ffug i’w defnyddio mewn golygfa. Mae’r rhain yn cynnwys Emmerdale (ITV), Eastenders (BBC) a Hatton Garden (ITV).

Mae DVLA hefyd wedi darparu rhifau cofrestru cerbyd i’w defnyddio gan y Grand Tour (Amazon Prime), Saturday Night Takeaway (ITV) ac ar gyfer ffilmiau Hollywood mawr fel Transformers.

Mae DVLA hefyd wedi darparu rhifau cofrestru cerbyd i’w defnyddio mewn lluniau cylchgronau, hysbysebion ceir ac ar gyfer rhaglenni fel Hollyoaks (Channel 4), Vera (ITV), Shetland (BBC One) a Rownd a Rownd (S4C).

Dywedodd Jody Davies, Rheolwr Gwerthu Rhifau Cofrestru DVLA:

Er nad yw ein henw yn cael ei gynnwys yn y credydau, rydym yn falch ein bod wedi cynorthwyo gymaint o gwmnïau cynhyrchu dros y blynyddoedd i ddod o hyd i’w rhif cofrestru cerbyd perffaith.

Mae ein gwefan cofrestriadau personol hefyd yn helpu modurwyr i ddod o hyd i’w rhif perffaith bob dydd. A chyda prisiau yn dechrau o £250 nid oes arnoch angen cyllid stiwdio i wneud i’ch car sefyll allan.

Nodiadau i olygyddion

Dilynwch Rhifau Cofrestru Personol y DVLA ar Twitter, Facebook ac Instagram i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 20 July 2018