Datganiad i'r wasg

DSA yn adnewyddu contract cyhoeddi gyda’r Llyfrfa

Dewiswyd Y Llyfrfa (TSO), rhan o Grŵp Williams Lea, i gyhoeddi adnoddau addysg i yrwyr a reidwyr yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) am y tair blynedd nesaf.

Dewiswyd Y Llyfrfa (TSO), rhan o Grŵp Williams Lea, i gyhoeddi adnoddau addysg i yrwyr a reidwyr yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA) am y tair blynedd nesaf.

Mae’r symudiad yn dilyn cystadleuaeth lem am y contract i gyhoeddi ystod o feddalwedd, llyfrau a DVDs y DSA, gan gynnwys The DSA Guide to Learning to Drive a Rheolau’r Ffordd Fawr.

Meddai Jane Phillips, cyfarwyddwr Ymgysylltu a Gweithredu’r DSA:

Roedd cystadleuaeth lem am y contract pwysig hwn a roddodd gyfle i ni gael y gwerth gorau posibl am arian i’r asiantaeth.

Mae hwn yn amser cyffrous yn y byd cyhoeddi gyda rhaglenni ffôn, e-ddysgu ac e-lyfrau yn datblygu’n gyflym ac edrychwn ymlaen at weithio gyda TSO i ddatblygu cynnwys, fformatau a chyfryngau newydd i wneud ein deunyddiau mor hygyrch â phosibl.

TSO yw partner cyhoeddi swyddogol presennol DSA.

Cyhoeddwyd ar 13 July 2011