Stori newyddion

Newidiadau i’r prawf gyrru: 4 Rhagfyr 2017

Bydd y prawf gyrru yn newid o ddydd Llun 4 Rhagfyr 2017 i gynnwys dilyn cyfarwyddiadau llywio lloeren ac i brofi symudiadau gwahanol.

Learner driver

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) wedi cadarnhau bod y prawf gyrru yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn newid o ddydd Llun 4 Rhagfyr 2017.

Mae’r prawf gyrru yn gweithio’n wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r newidiadau wedi eu cynllunio i sicrhau bod gan yrwyr newydd y sgiliau fydd arnynt eu hangen i’w helpu i yrru’n ddiogel gydol eu hoes.

I ddechrau bydd y newidiadau ond yn berthnasol i brofion gyrru ceir.

Y 4 newid i’r prawf gyrru

1. Bydd rhan gyrru annibynnol y prawf yn cynyddu i 20 munud

Ar hyn o bryd mae rhan gyrru annibynnol y prawf yn para tua 10 munud. Yn ystod y rhan hon o’r prawf, mae’n rhaid i chi yrru heb gyfarwyddiadau fesul tro gan yr arholwr gyrru.

Bydd y rhan hon o’r prawf yn hirach, felly bydd yn para tuag 20 munud – bron hanner y prawf.

2. Dilyn cyfarwyddiadau llywiwr lloeren

Yn ystod rhan gyrru annibynnol y prawf, bydd disgwyl i’r rhan fwyaf o ymgeiswyr ddilyn cyfarwyddiadau llywiwr lloeren.

Bydd yr arholwr yn darparu’r llywiwr lloeren (Tom Tom Start 52) a’i osod i fyny. Ni fydd yn rhaid i chi osod y daith – bydd yr arholwr yn gwneud hyn ar eich cyfer. Felly, does dim gwahaniaeth pa fath neu fodel o lywiwr lloeren yr ydych yn ei ddefnyddio wrth ymarfer.

Ni chewch ddilyn cyfarwyddiadau eich llywiwr lloeren eich hun yn ystod y prawf – rhaid i chi ddefnyddio’r un a ddarparwyd gan yr arholwr.

Cewch ofyn i’r arholwr gadarnhau i ble yr ydych yn mynd os nad ydych yn sicr. Does dim gwahanaieth os ewch chi i’r cyfeiriad anghywir oni bai eich bod yn gwneud camgymeriad wrth ei wneud.

Bydd un prawf ymhob 5 ddim yn defnyddio llywiwr lloeren. Bydd gofyn i chi ddilyn arwyddion traffig yn lle hynny.

3. Bydd symudiadau tuag at yn ôl/wysg eich cefn yn newid

Bellach ni fydd profi ar ‘fynd wysg eich cefn o gwmpas cornel’ a symudiadau ‘troi-ar-y-ffordd’, ond dylai eich hyfforddwr eich dysgu sut i’w gwneud beth bynnag.

Bydd disgwyl i chi wneud un o 3 symudiad posibl wysg eich cefn:

  • parcio cyfochrog ar ymyl y ffordd
  • parcio mewn bae – naill ai gyrru i mewn a gyrru allan wysg eich cefn, neu yrru i mewn wysg eich cefn a gyrru allan (bydd yr arholwr yn dweud wrthych beth i’w wneud)
  • tynnu mewn ar ochr dde y ffordd, gyrru wysg eich cefn am hyd 2 gar ac ail-ymuno â’r traffig

4. Ateb cwestiwn am ddiogelwch cerbyd tra’ch bod yn gyrru

Bydd yr arholwr yn gofyn 2 gwestiwn i chi am ddiogelwch cerbyd yn ystod eich prawf gyrru – gelwir y rhai hyn yn ‘gwestiynau dangoswch i mi, dwedwch wrtho i’.

Bydd yr arholwr yn gofyn:

  • cwestiwn ‘dwedwch wrtho i’ (pan fyddwch yn egluro sut byddech yn cwblhau tasg ddiogelwch) ar ddechrau eich prawf, cyn i chi ddechrau gyrru
  • cwestiwn ‘dangoswch i mi’ (pan fyddwch yn egluro sut byddech yn cwblhau tasg ddiogelwch) wrth ichi yrru - er enghraifft sut i olchi’r sgrin wynt gan ddefnyddio offer rheoli’r modur a’r sychwyr

Sut bydd y prawf newydd yn gweithio

Bydd y fideo hwn yn dangos sut bydd y prawf yn gweithio o 4 Rhagfyr 2017.

YouTube video

Ar bwy bydd yn effeithio

Bydd pob prawf gyrru modur a sefir o 4 Rhagfyr 2017 yn dilyn y fformat newydd. Bydd hyn yn cynnwys os:

  • ydych yn methu prawf cyn hynny, ac yn ail-sefyll eich prawf o 4 Rhagfyr 2017
  • caiff eich prawf ei ganslo neu ei symud am unrhyw reswm, a bod dyddiad eich prawf newydd o 4 Rhagfyr 2017

Dylai eich hyfforddwr gyrru fod wedi dysgu popeth fydd angen i chi ei wybod er mwyn gyrru yn ofalus, felly does dim angen i chi ofidio am ddysgu unrhyw beth newydd.

Darllenwch ragor am beth fydd yn digwydd yn ystod y prawf gyrru o 4 Rhagfyr 2017.

NI fydd y marc pasio, hyd y prawf na’r gost yn newid

Ni fydd y marc pasio yn newid. Felly, byddwch yn pasio eich prawf os na wnewch chi fwy na 15 gwall gyrru a dim gwallau difrifol neu beryglus.

Bydd yr arhowr yn dal i farcio’r prawf yn yr un modd, a bydd yr un pethau yn cael eu cyfrif yn wallau.

Ni fydd hyd y prawf gyrru yn newid. Bydd yn dal i barhau am tua 40 munud.

Bydd cost y prawf gyrru yn dal yr un peth.

Pam mae’r newidiadau yn cael eu gwneud

Gwrthdrawiadau ar y ffordd yw prif achos marwolaethau pobl ifanc. Maent yn cyfrif am fwy na chwarter yr holl farwolaethau ymhlith pobl rhwng 15 a 19. Mae’r ASGC (DVSA) am sicrhau bod hyfforddiant a’r prawf gyrru yn lleihau nifer y bobl ifanc sydd yn cael eu lladd mewn gwrthdrawiadau.

Gwneir y newidiadau hyn oherwydd:

  • mae’r rhan fwyaf o wrthdrawiadau angheuol yn digwydd ar ffyrdd cyflymdra-uchel (heb gynnwys traffyrdd) – bydd newid fformat y prawf yn golygu bod mwy o ffyrdd o’r mathau hyn yn cael eu cynnwys mewn llwybrau profion gyrru
  • mae gan 52% o yrwyr ceir lywiwr lloeren – mae’r ASGC eisiau i yrwyr newydd gael eu hyfforddi i’w defnyddio’n ddiogel
  • mae ymchwil wedi dangos bod gyrwyr newydd yn teimlo bod hyfforddiant gyrru annibynnol yn werthfawr – gallant ei ddefnyddio wrth yrru unwaith y maent wedi pasio eu prawf

Cefnogir y newidiadau gan y cyhoedd

Mae’r newidiadau yn dilyn:

  • ymgynghoriad cyhoeddus oedd wedi cynnwys 3,900 o bobl
  • treialu’r newidiadau, yn cynnwys dros 4,300 oedd yn dysgu gyrru a thros 860 hyfforddwr gyrru

Cafodd y cynigion eu cefnogi yn gyffredinol gan y cyhoedd. Dangosodd canlyniadau’r ymgynghoriad bod:

  • 88.2% yn cytuno gyda chynyddu hyd rhan gyrru annibynnol y prawf
  • 70.8% yn cytuno gyda gofyn i ymgeiswyr ddilyn cyfarwyddiadau llywiwr lloeren
  • 78.6% yn cytuno gyda’r cynlluniau i newid y ffordd mae symudiadau gyrru wysg eich cefn yn cael eu profi
  • 78.4% yn cytuno gyda gofyn y cwestiwn ‘dangoswch i mi’ tra bo’r ymgeisydd yn gyrru

Eich helpu i yrru’n ddiogel gydol eich oes

Meddai’r Gweinidog Trafnidiaeth, Andrew Jones:

Mae ein ffyrdd ni ymhlith y mwyaf diogel yn y byd. Er hyn, gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sy’n bennaf gyfrifol am ladd pobl ifanc.

Bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i leihau’r nifer o bobl sy’n cael eu lladd neu eu niweidio’n ddifrifol ar ein ffyrdd a chymhwyso gyrwyr newydd gyda’r sgil sydd angen arnynt i ddefnyddio ein ffyrdd yn ddiogel.

Meddai Prif Weithredwr y DVSA, Gareth Llewellyn:

Blaenoriaeth y DVSA yw eich helpu i yrru’n ddiogel gydol eich oes.

Mae sicrhau bod y prawf gyrru yn asesu yn well allu gyrrwr i yrru’n ddiogel ac annibynnol yn rhan o’n strategaeth i’ch helpu i aros yn ddiogel ar ffyrdd Prydain.

Mae’n hanfodol bod y prawf gyrru yn cadw i fyny gyda thechnoleg newydd cerbydau a’r meysydd ble mae gyrwyr newydd yn wynebu’r risg mwyaf unwaith y maent wedi pasio eu prawf.

Gwybodaeth bellach

Bydd gwybodaeth bellach i hyfforddwyr gyrru yn cael ei chyhoeddi ar flog Despatch DVSA.

Cyhoeddwyd ar 15 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 October 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added information about who the change affects, including if you need to retake your test from 4 December 2017, or if your test is cancelled or moved for any reason.

  3. First published.