Datganiad i'r wasg

Bydd gyrwyr yng Nghymru a De-orllewin Lloegr yn arbed arian o ganlyniad i ddiddymu TAW ar dollau pontydd Hafren

Alun Cairns: “Mae gostwng y tollau yn gam mawr ymlaen i roi hwb pellach i’r economi yng Nghymru”

Bydd cymudwyr, gyrwyr a busnesau ledled De Cymru a De-orllewin Lloegr yn arbed llawer o arian o heddiw ymlaen (8 Ionawr), oherwydd bydd Llywodraeth y DU yn lleihau’r gost o groesi pontydd Hafren.

O 00:01 ymlaen ar 8 Ionawr, bydd pob cerbyd yn cael ei eithrio rhag talu TAW, sy’n golygu y bydd gyrwyr ceir yn arbed £1.10 wrth i’r costau am un croesiad ostwng o £6.70 i £5.60. Bydd y newid hwn hefyd yn codi baich gweinyddol oddi ar ddefnyddwyr busnesau, gan na fydd rhaid iddynt hawlio TAW yn ôl mwyach.

Disgwylir y bydd y cam hwn yn arbed tua £1,400 y flwyddyn i yrwyr, sy’n ei gwneud yn llawer rhatach cymudo i Gaerdydd, Casnewydd neu Fryste. Bydd busnesau ledled yr ardal hefyd yn elwa drwy beidio â gorfod talu £16 i lorïau groesi Afon Hafren – bydd diddymu’r tâl yn rhoi hwb o dros £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.

Daw’r gostyngiad o ganlyniad i drosglwyddo’r pontydd yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus, wrth i Highways England - corff sy’n eiddo i Lywodraeth y DU - gymryd y cyfrifoldeb dros weithredu a rheoli’r pontydd oddi ar Severn River Crossing PLC.

Disgwylir y bydd gyrwyr yn arbed mwy fyth o arian pan fydd Llywodraeth y DU yn diddymu’r costau’n llwyr erbyn diwedd 2018.

Mewn uwchgynhadledd yn ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd ar 22 Ionawr, bydd Alun Cairns, yr Ysgrifennydd Gwladol, yn trafod y cyfleoedd masnach a chydweithio posibl yn sgil diddymu’r taliadau gyda sefydliadau o’r ddwy ochr i’r afon.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mewn llai na blwyddyn, byddwn yn gweld y sbardun economaidd mwyaf yn ne Cymru a’r Cymoedd ers degawdau. Mae’r cam pwysig hwn gan y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU mewn perthynas â phontydd Hafren yn symbol clir o ddymchwel y rhwystrau economaidd a hanesyddol sydd wedi atal ffyniant yng Nghymru – gan gefnogi undod rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig ar yr un pryd.

Fy mhrif flaenoriaeth fel Ysgrifennydd Gwladol oedd diddymu’r tollau, a fydd yn gwneud y teithiau’n rhatach i gymudwyr a thwristiaid ac yn creu cyfleoedd cyffrous i fusnesau a buddsoddwyr sydd am wneud enw iddyn nhw eu hunain yng Nghymru.

Bydd hyn yn rhoi hwb i gyflogaeth yng Nghymru ac yn sefydlu cysylltiadau rhwng y ddwy economi yn ogystal â chymunedau De Cymru a De Orllewin Lloegr, gan greu coridor twf naturiol sy’n ymestyn o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste. Mae’n hen bryd i wleidyddiaeth addasu i fusnes yn hytrach na bod busnes yn gorfod addasu i wleidyddiaeth yng Nghymru.

Rwy’n edrych ymlaen at drafod y cyfleoedd hyn ymhellach gyda channoedd o bobl o’r ddwy ochr i’r afon yn Uwchgynhadledd Twf Hafren yn nes ymlaen y mis yma.

Dywedodd James Durie, Cyfarwyddwr Gweithredol Business West:

Mae cysylltiadau economaidd cryf a chysylltiadau eraill eisoes yn bodoli rhwng Bryste a Gorllewin Lloegr, a Chaerdydd a De Cymru (fel y nodir yn adroddiad Great Western Cities 2016) a dim ond cynyddu fydd y rhain o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i leihau a diddymu tollau Pontydd Hafren. Er y bydd rhai heriau i fynd i’r afael â nhw yn y tymor byr, bydd busnesau’n croesawu’r penderfyniad i ddiddymu unrhyw gostau a rhwystrau o ran masnach, yn ogystal â’r cyfle hwn i weithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth y DU yn sgil yr uwchgynhadledd twf sydd i ddod.

Mae Bryste a Gorllewin Lloegr yn gweithredu ledled y byd, a hon yw’r economi sy’n perfformio orau y tu allan i Lundain, ond mae hefyd yn cydnabod bod angen edrych ar gydweithio mwy â rhanbarthau eraill – yn enwedig yng nghyd-destun yr heriau a fydd yn dod yn sgil Brexit. Ar adeg lle mae Pwerdy Gogledd Lloegr ac Injan Canolbarth Lloegr ar flaen y gad ac yn cael llawer o sylw cenedlaethol, mae angen i ni ymchwilio i sut gallwn ni gydweithio â’n gilydd i sicrhau cyfleoedd i Orllewin y DU a chodi proffil y rhanbarth.

Allwn ni ddim fforddio aros yn ein hunfan – rhaid i ni edrych i’r dyfodol a chydweithio’n agosach i wella’r rhan hon o’r wlad fel lle gwych i fyw, i weithio, i astudio ac i ymweld â hi.

Mae Highways England wedi rhoi gwybod i holl ddeiliaid y tocyn TAG am y trefniadau newydd ac yn atgoffa’r rheini â Trip TAG sy’n talu wrth fynd drwy fancio ar-lein i ddiweddaru eu manylion talu i gyfrif Highways England o 8 Ionawr 2018 ymlaen. Bydd deiliad cyfrifon yn dal yn gallu talu drwy’r wefan neu dros y ffôn.

Ni fydd angen i yrwyr sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol wneud unrhyw beth – bydd eu cyfrifon a’u balans yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig a bydd eu taliadau’n cael eu haddasu i adlewyrchu’r costau newydd.

Ar ôl 8 Ionawr, bydd y croesfannau’n gweithredu yn ôl yr arfer, gyda dim ond rhywfaint o fân newidiadau i arwyddion wrth y tollbyrth.

Mae holl staff presennol Severn Crossing PLC wedi cael cynnig gwaith gyda Highways England.

Mae manylion y newidiadau a’r hyn sydd angen ei wneud ar gael ar wefan Severn Crossings www.severnbridge.co.uk.. Gall deiliaid TAG sydd ag unrhyw ymholiadau gysylltu â llinell gymorth TAG ar 01454 633 522.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

Costau dyddiol Pontydd Hafren (yr M4 a’r M48) ar ôl 8 Ionawr 2018

  • Categori 1 (Ceir a cherbydau eraill â hyd at 9 sedd): £5.60
  • Categori 2 (Cerbydau nwyddau hyd at 3.5 tunnell, bysiau bach): £11.20
  • Categori 3 (Cerbydau nwyddau dros 3.5 tunnell, bysiau mawr): £16.70

Costau misol Pontydd Hafren (yr M4 a’r M48) ar ôl 8 Ionawr 2018

  • Categori 1: £5.60, gyda’r TAG Tymor/Rhannu am £98.56 (20% o ostyngiad ar sail 22 taith y mis).
  • Categori 2: £11.20, gyda’r TAG Tymor/Rhannu am £197.12 (20% o ostyngiad ar sail 22 taith y mis).
  • Categori 3: £16.70, gyda’r TAG Tymor/Rhannu am £330.66 (10% o ostyngiad ar sail 22 taith y mis).

  • Mae disgwyl i’r penderfyniad i ddiddymu’r costau roi budd o oddeutu £100m y flwyddyn i economi Cymru yn ôl Llywodraeth Cymru: Effaith Tollau Pontydd Hafren ar Economi Cymru, 30 Mai 2012
  • Bydd gyrwyr ceir rheolaidd yn arbed dros £1,400 y flwyddyn yn seiliedig ar gost tag fisol o £117.92 dros 12 mis.
  • Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal y gynhadledd fusnes drawsffiniol gyntaf ar gyfer Twf Hafren ar 22 Ionawr 2018 yng Ngwesty’r Celtic Manor. Gall busnesau gofrestru i ddod i’r gynhadledd drwy Eventbrite.
  • Ar 13 Ionawr, lansiodd y Llywodraeth ymgynghoriad yn nodi cyfres o gynigion gyda’r nod o ddarparu gwelliannau i’r Pontydd. Bu’r ymgynghoriad hwn yn agored am wyth wythnos tan 10 Mawrth. Mae modd gweld yr ymateb i’r ymgynghoriad yma.
  • Cafodd Pont Hafren ei hadeiladu ym 1966 a chafodd ail groesfan ei chwblhau 30 mlynedd wedyn. Pan ddaw’r pontydd dan berchnogaeth gyhoeddus, byddant yn cael eu rhedeg gan Highways England. Yn flaenorol roeddent yn cael eu rhedeg gan Severn River Crossing plc.
  • Agorwyd y bont gyntaf dros Afon Hafren ym mis Medi 1966, gan ddarparu cysylltiad uniongyrchol rhwng traffordd yr M4 a Chymru. Roedd rhaid talu toll i ddefnyddio’r bont er mwyn talu am gost y gwaith adeiladu. Roedd mwy o gerbydau na’r capasiti yn defnyddio’r bont yn gyson ac ym 1986 dywedodd y Llywodraeth y byddai ail bont yn cael ei hadeiladu.
  • Ym 1988 cyhoeddwyd y byddai tendrau’n cael eu gwahodd gan gonsortia preifat er mwyn ariannu, adeiladu a gweithredu’r ail bont a bod yn gyfrifol am weithredu’r bont gyntaf. Ym 1990 dyfarnwyd y consesiwn i Severn River Crossing PLC (“SRC”). Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ebrill 1992 ac agorwyd yr ail bont ym mis Mehefin 1996.
Cyhoeddwyd ar 8 January 2018