David Jones yn croesawu gostyngiad trosedd yng Nghymru
Croesawodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw sy’n dangos bod troseddau a gofnodwyd yng Nghymru yn gyffredinol…
Croesawodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, y ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw sy’n dangos bod troseddau a gofnodwyd yng Nghymru yn gyffredinol wedi gostwng 10% o’i gymharu a’r ffigyrau a gyhoeddwyd am y 12 mis blaenorol.
Dywedodd Mr Jones: “Mae’r ffigyrau hyn yn galonogol iawn a byddant yn cynnig sicrwydd i’r cyhoedd. Mae’r gostyngiad yn y troseddau a gofnodwyd yng Nghymru yn gyffredinol, yn wir destament i waith rhagorol ein heddluoedd wrth fynd i’r afael a throsedd ac anrhefn.
“Fodd bynnag ni allwn fod yn hunanfodlon a’r lefelau’n parhau yn rhy uchel. Rydym yn gwybod hefyd mai dim ond darlun rhannol am lefel troseddu a geir gan yr ystadegau hyn. Er bod trosedd yn gostwng yn rhan fwyaf o ardaloedd ledled Cymru, mae’n destun pryder bod canfyddiad y cyhoedd yn y ffordd mae’r heddlu yn ymdrin a rhai troseddau yn parhau heb newid.
“Mae’r Llywodraeth hon yn cymryd camau pendant i adfer ymddiriedaeth y cyhoedd yn ffigyrau troseddu, a dyna pam mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi adolygiad annibynnol i gasglu a chyhoeddi ystadegau trosedd..
“Bydd y cyfrifoldeb am gyhoeddi ystadegau trosedd yn symud i gorff annibynnol, sy’n mynegi ymrwymiad y Llywodraeth i adfer hyder yn y data a gyhoeddir..”
Mae’r ffigyrau diweddara , o’u cymharu a’r 12 mis blaenorol o fis Medi 2009 i fis Medi 2010, yn dangos yng Nghymru bod:
- Lladrad i lawr 24%
- Difrod Troseddol i lawr 19%
- Troseddau yn erbyn cerbydau i lawr 18%
- Trais corfforol i lawr 9%
- Byrgleriaeth i lawr 7%