Datganiad i'r wasg

David Jones yn ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron

Mae un o Weinidogion Swyddfa Cymru, David Jones, wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd, a gynhelir eleni yn Llanerchaeron ger Aberaeron.  Ymunodd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae un o Weinidogion Swyddfa Cymru, David Jones, wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd, a gynhelir eleni yn Llanerchaeron ger Aberaeron. 

Ymunodd Mr Jones a’r miloedd o ymwelwyr ar y Maes ar gyfer yr wythnos arbennig hon sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, diwylliant Cymru a’r Celfyddydau. Mae tref glan mor Aberaeron yn paratoi at gynnydd aruthrol mewn masnach wrth i’r digwyddiad ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal.

Aeth Mr Jones i seremoni’r cadeirio, lle gwelwyd Llŷr Gwyn Lewis o Gaernarfon yn cipio’r gadair.

Ac yntau’n siarad ar ol yr ymweliad, dywedodd Mr Jones: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael ymweld ag Eisteddfod yr Urdd eleni, a fydd unwaith eto yn arddangos diwylliant cyfoethog Cymru. Mae’r Urdd yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o hyrwyddo Cymru, ei hiaith a’r Celfyddydau, ac rwy’n siŵr y bydd yr ŵyl yn Llanerchaeron eleni yn llwyddiant ysgubol.   

“Disgwylir i dros 100,000 o bobl ymweld a’r ardal yr wythnos hon. Amcangyfrifir y gallai’r Eisteddfod ddod a £6m i’r economi leol ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn hwb y bydd yr ardal yn falch ohono. Mae’r Urdd yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc ddangos eu doniau o oedran ifanc, a hefyd yn cynnig diwrnod difyr i’r teulu yn ystod y gwyliau hanner tymor.”

Cyhoeddwyd ar 4 June 2010