Datganiad i'r wasg

Dywed David Jones y bydd Heddluoedd Cymru yn diogelu gwasanaethau plismona’r rheng flaen yng Nghymru drwy gael gwared ar wastraff yr ystafelloedd cefn

Bydd cyllid gan y Swyddfa Gartref i’r pedwar awdurdod heddlu yng Nghymru yn diogelu gwasanaethau plismona’r rheng flaen ar strydoedd Cymru wrth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd cyllid gan y Swyddfa Gartref i’r pedwar awdurdod heddlu yng Nghymru yn diogelu gwasanaethau plismona’r rheng flaen ar strydoedd Cymru wrth i’r heddluoedd gwtogi ar wastraff yn yr ystafelloedd cefn, meddai’r Gweinidog Cymreig David Jones heddiw (13 Ionawr).

Dywedodd Mr Jones y byddai gostyngiadau mewn cyllid o 5.1 y cant yn 2011/12 a 6.7 y cant yn 2012/13 i heddluoedd Cymru yn anodd dros ben, ond y gellid cyflawni hynny drwy gael gwared ar wastraff a gwneud y swyddfeydd cefn yn fwy effeithlon, heb fod angen i hynny arwain at doriad yng ngwasanaethau plismona’r rheng flaen yng Nghymru.

Roedd yn siarad ar ol i’r Gweinidog dros Blismona a Chyfiawnder Troseddol, Nick Herbert, gyhoeddi dyraniadau dros dro Setliad Craidd yr Heddlu gan y Swyddfa Gartref i heddluoedd Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn nesaf a dyraniadau dangosol ar gyfer y tair blynedd ganlynol. Mae pob heddlu ar draws Cymru a Lloegr yn cael ei drin yr un fath, ac yn wynebu gostyngiad canrannol cyfartal yn ei gyllid craidd.

Roedd Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd i fod i gyhoeddi ei chynigion ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i’r pedwar awdurdod heddlu yng Nghymru yn ddiweddarach heddiw.

Meddai Mr Jones: “Mae heddluoedd yng Nghymru eisoes wedi ymrwymo i gael gwared ar fiwrocratiaeth sy’n wastraff amser a gwariant gwastraffus sy’n llesteirio gweithrediadau’r heddlu. Bydd y gostyngiadau hyn yn gwneud pethau’n anodd iawn ond mae’n glir y gall heddluoedd Cymru wneud yr arbedion angenrheidiol a pharhau i ddiogelu’r rheng flaen gan roi blaenoriaeth i wasanaeth plismona amlwg a digonol.

“Drwy dorri costau a chael gwared ar fiwrocratiaeth rydym yn arbed miliynau o bunnau a channoedd o filoedd o oriau gwaith ar draws y DU, gan alluogi ein swyddogion i fod allan ar y strydoedd yn mynd ar drywydd troseddwyr yn hytrach nag yn treulio’u hamser yn y swyddfa’n mynd ar drywydd targedau.”

“Fel y dywedodd Prif Gwnstabl Gogledd Cymru, Mark Polin, yn ddiweddar, mae ei heddlu - fel holl heddluoedd eraill Cymru - yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, ond bydd yn dal yn sefydliad sy’n parhau i ddiogelu’r cyhoedd ac yn darparu gwasanaeth y gall y cyhoedd fod a hyder ynddo.”

Mae manylion llawn dyraniadau dros dro’r Swyddfa Gartref ar gael yn: http://www.homeoffice.gov.uk/publications/police/police-finance/provisional-grant-report-2011-12

Cyhoeddwyd ar 13 December 2010