Cytundeb SPS rhwng y Deyrnas Unedig a'r UE – Gwybodaeth i Fusnesau
Busnesau'n cael eu hannog i gymryd camau syml ar gyfer masnach llyfnach gyda'r UE
Ar 19 Mai 2025, cytunodd llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd (UE) i fynd ar drywydd cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) newydd. Bydd hyn, ynghyd â Fframwaith Windsor, yn ei gwneud hi’n haws, yn rhatach ac yn fwy rhagweladwy i nwyddau symud nid yn unig rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE, ond hefyd o fewn y Deyrnas Unedig ei hun, gan gynnwys symud yn llyfn o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
Mae’r cytundeb yma yn ymdrin â masnachu, cynhyrchu a symud planhigion, anifeiliaid a’u cynhyrchion; diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid; meysydd sy’n gysylltiedig â maeth fel atchwanegiadau bwyd, bwydydd wedi’u cyfnerthu, bwyd ar gyfer grwpiau penodol, hawliadau maeth ac iechyd, a labelu maeth; rheolau bwyd-amaeth ehangach sy’n ymwneud â labelu bwyd, nwyddau organig, safonau marchnata bwyd-amaeth allweddol a safonau cyfansoddiad; yn ogystal â rheoleiddio plaladdwyr a bioladdwyr.
Y rhai y bydd y newidiadau’n gymwys iddyn nhw
Bydd y Cytundeb SPS yn gymwys yn wahanol ar draws sectorau. Y prif grwpiau sy’n debygol o fod o fewn y rhychwant yw:
- Ffermwyr a chynhyrchwyr sylfaenol – newidiadau i iechyd anifeiliaid, iechyd planhigion, bwyd anifeiliaid, plaladdwyr a’u lefelau gweddillion uchaf perthnasol, a lefelau gweddillion uchaf meddyginiaethau milfeddygol.
- Busnesau bwyd, bwyd anifeiliaid a diod – newidiadau mewn rheolau hylendid, cyfraith bwyd, ychwanegion, lefelau gweddillion uchaf, safonau marchnata, labelu a deunyddiau sydd mewn cysylltiad â bwyd.
- Cludwyr a darparwyr logisteg – newidiadau yn y gofynion ar gyfer symud anifeiliaid, planhigion a nwyddau SPS.
- Mewnforwyr ac allforwyr nwyddau SPS – newidiadau mewn tystysgrifau, gwiriadau, rheolaethau swyddogol a systemau digidol.
- Gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr plaladdwyr a bioladdwyr – newidiadau i gymeradwyaethau sylweddau actif plaladdwyr a bioladdwyr, awdurdodiadau cynnyrch diogelu planhigion (PPP) a bioladdwyr, a lefelau gweddillion uchaf PPP.
- Manwerthwyr a chyfanwerthwyr – newidiadau mewn gwybodaeth i ddefnyddwyr, safonau cyfansoddiad, olrhain, labelu a gofynion cyrchu.
- Cyflenwyr hadau a phlanhigion a chyflenwyr garddwriaethol – newidiadau mewn iechyd planhigion, deunydd atgenhedlu a phasbortau planhigion.
- Milfeddygon – newidiad yn Lefelau Uchaf Gweddillion mewn meddyginiaethau milfeddygol ac ymwrthedd microbaidd.
Yn achos rhai o’r rheolau, does dim llawer o wyro oddi wrth yr UE wedi bod a bydd y newid y byddwch chi’n ei weld yn eich busnes yn fach iawn. Mewn achosion eraill, bydd gwyro wedi bod ers inni ymadael â’r UE ac efallai y bydd angen ichi wneud newidiadau. Gan ddechrau ym mis Mai, byddwn ni’n darparu canllawiau manylach i fusnesau.
Pryd bydd y newidiadau hyn yn gymwys
Bwriedir i’r cytundeb fod yn effeithiol o ganol 2027 ymlaen. Rydyn ni am i bob busnes yn y sector bwyd-amaeth ddechrau paratoi nawr. Mae hyn yn cynnwys y rhai nad ydyn nhw’n masnachu â’r UE ar hyn o bryd. Er bod y llinell amser yn uchelgeisiol, mae’r wobr yn werth yr ymdrech.
Rydyn ni wedi bod yn gwrando ar fusnesau ers mis Mai diwethaf ac yn deall y pryderon sydd wedi’i codi am sut y gallai’r cytundeb newydd effeithio arnyn nhw. Rydyn ni’n gwybod bod ar rai busnesau angen cyfnod hirach i addasu at y trefniadau newydd a byddwn ni’n gweithio gyda nhw i sicrhau cyfnod pontio llyfn. Rydyn ni am sicrhau bod gan bob busnes, beth bynnag fo’u maint neu eu hamgylchiadau, yr amser a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i addasu a bod yn barod i fanteisio i’r eithaf o’r diwrnod cyntaf.
Nawr yw’r amser i fusnesau ddechrau cymryd camau syml i ddechrau paratoi, trwy gysylltu â chyrff masnach a chofrestru ar gyfer rhybuddion ebost Defra. Byddwn ni’n darparu canllawiau a chymorth manwl gan ddechrau ym mis mai 2026 fel bod busnesau’n barod i fanteisio i’r eithaf o’r diwrnod cyntaf. Gallwch ddod o hyd i gamau ymarferol y gall busnesau eu cymryd yn yr adran.
Beth all busnesau ei wneud nawr
Manteision
Bydd y newidiadau yma yn rhoi manteision ymarferol i fusnesau a defnyddwyr:
- Bydd busnesau’n arbed arian . Bydd y rhai sy’n masnachu â’r UE, allforwyr a mewnforwyr mawr a bach, ar eu hennill am fod llai o arian yn cael ei wario ar waith papur cymhleth ar y ffin. Erbyn hyn fydd dim angen Tystysgrifau Iechyd Allforio, a all gostio hyd at £200 y llwyth. Bydd gwiriadau arferol ar y ffin gan Awdurdodau Iechyd Porthladd sy’n gymwys ar hyn o bryd i allforion llaeth, pysgod, wyau a chig coch yn cael eu dileu, gan leihau ffioedd a’r costau sy’n gysylltiedig â chiwio a lleihau’r risg y bydd nwyddau’n cael eu difetha.
- Bydd masnach yn llifo’n gyflymach. Bydd cynnyrch ffres yn cyrraedd silffoedd archfarchnadoedd yn gyflymach. Bydd cadwyni cyflenwi’n dod yn fwy gwydn, gan gryfhau diogelwch bwyd yma ac yn Ewrop. Ac am y tro cyntaf ers Brexit, bydd nwyddau’n symud yn rhydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.
- Bydd marchnadoedd newydd yn cael eu datgloi. Bydd y fasnach mewn cynhyrchion fel selsig a byrgyrs ffres, rhai mathau o bysgod cregyn a thatws hadyd yn ailddechrau, gan agor marchnad yr UE i’r nwyddau yma a helpu busnesau Prydain i ehangu eu cynhyrchiant. Bydd gan ddefnyddwyr ar ddwy ochr y Sianel fwy o fynediad i’r cynhyrchion o ansawdd uchel y maen nhw’n eu gwerthfawrogi.
Dylai llawer o fusnesau bach a chanolig elwa o hyn. Yr allforwyr lleiaf sydd wedi’u taro galetaf gan gostau gwaith papur ac ardystio, ac mae llawer wedi rhoi’r gorau i fasnachu â’r UE yn gyfan gwbl am fod y cymhlethdod yn drech na’r manteision. Mae’r fargen yn creu cyfleoedd newydd i’r busnesau hynny sy’n mewnforio cynhyrchion bwyd at ddibenion prosesu neu gyfanwerthu cyn eu gwerthu ymlaen. Trwy ysgubo’r rhwystrau yma i ffwrdd, rydyn ni’n ailagor marchnad hanfodol i’r holl gwmnïau yma, gan alluogi’r rhai sy’n masnachu â’r UE i dyfu ar sail mwy o hyder a llai o gostau.
Bydd y fargen newydd yn torri [hyd at £320 miliwn] mewn biwrocratiaeth, gan arbed amser ac arian i fusnesau, ac agor cyfleoedd ar gyfer twf i allforwyr mawr a bach ledled y wlad, gan helpu i roi cynnyrch Prydain yn ôl ar fyrddau ledled y byd.
Beth mae hyn yn ei olygu i’ch busnes chi
Bydd angen i fusnesau’r Deyrnas Unedig fodloni rheolau’r UE o fewn rhychwant y cytundeb, p’un a ydyn nhw’n masnachu â’r UE neu’n gwasanaethu marchnad y Deyrnas Unedig yn unig. Efallai y bydd angen i bob busnes, gan gynnwys mentrau bach a chanolig yn y sectorau bwyd a ffermio, a diwydiannau cysylltiedig fel manwerthu a phrosesu, wneud newidiadau gweithredol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Gall hyn gynnwys newidiadau i’r canlynol, er enghraifft:
- Dulliau prosesu
- Ardystio a labelu
- Systemau TG
Darperir gwybodaeth lefel uchel am reolau’r UE â pha fusnesau y bydd angen iddyn nhw gysoni a pha fusnesau y bydd y rhain yn gymwys iddyn nhw isod. Er mwyn helpu busnesau i baratoi, rydyn ni’n rhannu rhestr o reoliadau rydyn ni’n disgwyl y byddan nhw o fewn y rhychwant: UK-EU SPS Agreement - Legislation in scope - GOV.UK
Yn achos rhai o’r rheolau, does dim llawer o wyro oddi wrth yr UE wedi bod a bydd y newid y byddwch chi’n ei weld yn eich busnes yn fach iawn. Mewn achosion eraill, bydd gwyro wedi bod ers inni ymadael â’r UE ac efallai y bydd angen ichi wneud newidiadau. Gan ddechrau ym mis Mai, byddwn ni’n darparu canllawiau manylach i fusnesau.
Mae Galwad am Wybodaeth wedi’i lansio i helpu i sicrhau bod y canllawiau yn y dyfodol yn adlewyrchu’r hyn sydd ei angen ar fusnesau.
Byddwn ni’n darparu’r wybodaeth yma mewn amryw o fforymau a fformatau sy’n gweddu i’ch anghenion, gan gynnwys canllawiau ysgrifenedig manwl, rhestrau gwirio, gweminarau, rhestrau postio a theclyn ar-lein pwrpasol.
At hynny, byddwn ni’n sefydlu bwrdd cynghori rhanddeiliaid newydd i gasglu mewnwelediadau a chyngor gan fusnesau a sicrhau bod deialog ddwyffordd gyson yn cael ei hybu trwy gydol y broses. Rydyn ni am i’ch mewnbwn wneud y gefnogaeth honno mor effeithiol â phosibl.
Nwyddau Gweddill y Byd
Bydd gwiriadau ar fewnforion o Weddill y Byd yn golygu bod arolygiadau arferol yn Safleoedd Rheolaethau’r Ffin yn ofynnol o hyd. Er ein bod yn disgwyl dileu’r rhan fwyaf o wiriadau arferol ar fewnforion yr UE, disgwylir i lefel y gwiriadau ar gyfer y rhan fwyaf o nwyddau Gweddill y Byd fod yn gyson â’r rhai a gymhwysir gan yr UE at fewnforion o Weddill y Byd.
Mae’r llywodraeth yn rhag-weld cynnydd yng nghyfraddau’r gwiriadau ar gyfer nwyddau penodol o Weddill y Byd. Bydd rhagor o wybodaeth am oblygiadau’r Cytundeb SPS ar gyfer mewnforion o Weddill y Byd yn cael ei ddarparu maes o law.
Galwad am Wybodaeth
Mae Defra wedi lansio Galwad am Wybodaeth i ddeall pa gymorth a chanllawiau sydd eu hangen ar fusnesau i baratoi ar gyfer y newidiadau sy’n effeithio ar nwyddau SPS.
Bydd yr Alwad am Wybodaeth yn ein helpu i nodi pa wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau, amseru’r wybodaeth honno, ac unrhyw feysydd lle byddai rhagor o gymorth yn ddefnyddiol. Bydd canfyddiadau’n cael eu defnyddio i ddatblygu canllawiau ymarferol i fusnesau o bob maint cyn i’r gofynion newydd ddod i rym.
Cwblhewch yr Alwad am Wybodaeth (CFI) chwe wythnos ar Citizen Space.
Beth all busnesau ei wneud nawr
Tra byddwn ni wrthi’n datblygu cymorth a chanllawiau manwl, gall busnesau gymryd camau syml, synhwyrol i ddechrau paratoi. Fe allwch chi:
- Ymgysylltu â’ch corff masnach neu’ch cymdeithas diwydiant berthnasol – byddan nhw’n bartneriaid allweddol wrth ddarparu canllawiau sector-benodol ac mae llawer eisoes yn gweithio gyda’r llywodraeth i helpu eu haelodau i baratoi.
-
Ymgysylltu â’ch cadwyn gyflenwi i ddeall unrhyw newidiadau a allai fod yn gymwys iddyn nhw.
-
Cofrestru ar gyfer rhybuddion ebost Defra, dilyn Defra ar Linkedin ac ymuno â’n rhestr bostio – i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau, yr amserlenni gweithredu, a manylion y canllawiau a’r cymorth sydd ar gael.
- Os ydych chi’n Fenter Fach neu Ganolig (SME) efallai yr hoffech gael cymorth ychwanegol gan asiantaethau llywodraeth eraill, er enghraifft:
-
Yr Adran Busnes a Masnach: [Gofyn cwestiwn i’n tîm cymorth arbenigol – Cyswllt Busnes.gov.uk support](Ask our export support team a question - Contact Business.gov.uk support.
-
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd: Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion a reoleiddir Yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
- Ymateb i’r Alwad am Wybodaeth – a rhannu’ch barn ar ba gymorth sydd ei angen ar eich busnes er mwyn paratoi.
Ymgysylltu â ni
Byddwn ni’n cydweithio â’r diwydiant a’r Llywodraethau Datganoledig fel bod busnesau o bob maint, o ffermwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd i gludwyr a manwerthwyr, yn barod i elwa o’r diwrnod cyntaf. Bydd busnesau’n cael eu hysbysu’n gyson trwy ymgysylltu rheolaidd a diweddariadau wrth i’r trafod fynd rhagddo.
Unwaith y daw’r trafod i ben yn nes ymlaen eleni, bydd cymorth ychwanegol ar gael yn dilyn yr Uwchgynhadledd rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE sydd i ddod, gan gynnwys:
- cyhoeddi canllawiau sector-benodol, yn esbonio’r newidiadau angenrheidiol ac yn amlinellu’r camau pwysicaf y mae angen i fusnesau eu cymryd.
- cyfleoedd i gymryd rhan yn uniongyrchol mewn gweminarau a gweithdai rhithwir.
- cylchlythyrau a bwletinau busnes rheolaidd
Os oes arnoch chi angen unrhyw gymorth pellach neu os oes gennych gwestiynau ychwanegol, cofrestrwch ar ein rhestr bostio.
Bydd Defra ac adrannau eraill o’r llywodraeth yn defnyddio perthnasoedd presennol â chyrff masnach a rhwydweithiau rhanddeiliaid i sicrhau bod masnachwyr yn cael gwybodaeth brydlon a chywir. Bydd manylion cyfleoedd ymgysylltu perthnasol yn cael eu rhannu trwy gylchlythyrau a bwletinau busnes dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
Deddfwriaeth o fewn y rhychwant
Er mwyn lleihau biwrocratiaeth a chostau mewnforio ac allforio gyda’r UE, bydd y Deyrnas Unedig yn cysoni â deddfwriaeth Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) yr UE; diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid; a meysydd ehangach sy’n gysylltiedig â maeth fel atchwanegiadau bwyd, bwydydd wedi’u cyfnerthu, bwyd ar gyfer grwpiau penodol, hawliadau maeth ac iechyd, a labelu maeth; rheolau bwyd-amaeth ehangach sy’n ymwneud â labelu bwyd, nwyddau organig, safonau marchnata bwyd-amaeth allweddol a safonau cyfansoddiad; yn ogystal â rheoleiddio plaladdwyr a bioladdwyr.
Ar hyn o bryd rydyn ni o’r farn bod deddfwriaeth ganlynol yr UE – ac unrhyw reolau UE cysylltiedig – a wnaed o dan y ddeddfwriaeth UE sydd wedi’u rhestru o fewn rhychwant y cytundeb. Efallai y bydd angen i fusnesau gymryd camau i gydymffurfio â’r gofynion hyn. Mewn llawer o’r achosion, rydyn ni’n disgwyl y bydd y rheolau hyn yn disodli’r rheolau cyfredol ac nid yn ychwanegu at y rheolau cyfredol.
Ers inni ymadael âr UE mae rhywfaint o wyro oddi wrth ddeddfwriaeth yr UE wedi bod. Ond, mewn llawer o’r achosion mae’r gwyro hwnnw wedi bod yn fân neu’n fach iawn. Rydyn ni’n disgwyl y bydd deddfwriaeth y Deyrnas Unedig yn cysoni â’r ddeddfwriaeth UE isod. Bydd hyn wrth gwrs yn gofyn am lefelau amrywiol o newid ar draws sectorau, gyda rhai yn cael eu heffeithio’n fwy nag eraill.
Rydyn ni wedi darparu crynodeb o’r hyn y mae hyn yn ei olygu i sectorau penodol. Mae darnau ychwanegol o ddeddfwriaeth yr UE yn cael eu hystyried. Byddwn ni’n diweddaru’r rhestr yma unwaith y bydd y trafodaethau wedi dod i ben ac yn dilyn hyn gyda chanllawiau manwl, ymarferol ar ba gamau y bydd angen i fusnesau eu cymryd.
Mae’r UE wedi derbyn y bydd angen meysydd lle bydd y Deyrnas Unedig yn cadw ei rheolau ei hun, fel y nodwyd yn y Gyd-ddealltwriaeth Gyffredin ym mis Mai 2025. Mae manylion y rhain i’w trafod. Rydyn ni wedi bod yn glir ei bod yn bwysig iddi gael gosod safonau uchel mewn lles anifeiliaid, ategu iechyd y cyhoedd, a helpu i ddefnyddio technolegau newydd ac arloesol.
Rydym yn ystyried ar wahân pa drefniadau pontio wedi’u targedu a allai fod eu hangen ar gyfer y sectorau hynny a fydd yn ei chael hi’n fwyaf heriol gweithredu’r newidiadau angenrheidiol cyn i’r cytundeb ddod i rym.
Cyfraith Bwyd Gyffredinol a Gwybodaeth i Ddefnyddwyr
Bydd gweithrediadau gweithgynhyrchu bwyd, manwerthu, a mewnforio/allforio yn gweld newidiadau sy’n deillio o gysoni â chyfraith bwyd yr UE. Bydd y cysoni yma yn diweddaru meysydd fel gofynion y Deyrnas Unedig ar ddadansoddi risg, y gallu i olrhain a gwybodaeth i ddefnyddwyr.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 178/2002 – Cyfraith bwyd gyffredinol
- Rheoliad 1169/2011 – Gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr
- Rheoliad 1924/2006 – Hawliadau maeth ac iechyd
Hylendid Bwyd a Diogelwch Bwydydd sy’n Tarddu o Anifeiliaid
Bydd cysoni â rheolau hylendid yr UE yn gymwys i ladd-dai, proseswyr cig, a chynhyrchwyr llaeth. Mae’r rheolau ar hylendid bwyd anifeiliaid yn dal yn gyson iawn â rheolau’r UE, gan sicrhau bod cynhyrchwyr a chludwyr bwyd anifeiliaid a ffermwyr yn gweithio yn unol â’r un safonau uchel o ran glendid, cadw cofnodion a diogelwch. Bydd y cytundeb yn diweddaru meysydd fel safonau cynhyrchu, gan ddileu’r angen am rai gwiriadau ar y ffiniau a chefnogi symudiad llyfn nwyddau a chadw safonau cynhyrchu a hylendid uchel yr un pryd, gan gynnwys lefel y gwiriadau hylendid sy’n ofynnol ar y ffin.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 853/2004 – Rheolau hylendid ar gyfer bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid
- Rheoliad 852/2004 – Hylendid bwyd cyffredinol
- Cyfarwyddeb 89/108/EEC – Bwydydd wedi’u rhewi’n gyflym
Ychwanegion Bwyd, Cyflasynnau a Gweddillion
Bydd cysoni â rheolau’r UE yn effeithio ar gyflenwyr cynhwysion, gweithgynhyrchwyr arbenigol fel cynhyrchwyr fformiwla babanod, labordai profi, manwerthwyr a chyrff diwydiant perthnasol. Bydd yn diweddaru meysydd fel gofynion ar ychwanegion, ensymau, halogion, bwydydd newydd a marchnata.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 1331/2008 – Gweithdrefn awdurdodi gyffredin ar gyfer ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd
- Rheoliad 1332/2008 – Ensymau bwyd
- Rheoliad 1333/2008 – Ychwanegion bwyd
- Rheoliad 1334/2008 – Blasau
- Cyfarwyddeb 2002/46/EC – Ychwanegion bwyd
- Rheoliad 1925/2006 – Ychwanegu fitaminau a mwynau
- Rheoliad 2065/2003 – Cyflasynnau mwg
- Rheoliad 315/93 – Halogion
- Rheoliad 2015/2283 – Bwydydd newydd
- Rheoliad 609/2013 – Bwydydd ar gyfer grwpiau penodol
Safonau Marchnata ar gyfer Bwydydd Penodol
Bydd angen i gynhyrchwyr a chyflenwyr y cynhyrchion sy’n dod o dan y rheolau hyn addasu meysydd fel fformwleiddiadau eu cynhyrchion, eu dulliau prosesu a/neu eu labeli i fodloni gofynion yr UE. Mewn rhai meysydd, megis cyfansoddiad coffi a siwgr a safonau labelu, dyw rheolau’r Deyrnas Unedig ddim wedi gwyro’n arwyddocaol oddi wrth reolau’r UE.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Cyfarwyddeb 1999/4/EC – Rhiniau coffi a rhiniau sicori
- Cyfarwyddeb 2000/36/EC – Cynhyrchion coco a siocled
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC – Mêl
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC – Siwgrau a fwriedir i’w bwyta gan bobl
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC – Sudd ffrwythau a rhai cynhyrchion tebyg
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC – Jamiau ffrwythau, jeli a marmalêd; piwrî castanwydd wedi’i felysu
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/EC – Llaeth penodol wedi’i gadw ac wedi’i ddadhydradu’n rhannol neu’n gyfan gwbl (llaeth wedi’i ddadhydradu/anweddu)
- Rheoliad 1308/2013 – Rheoliad CMO (elfennau safonau marchnata)
Deunyddiau sydd mewn Cysylltiad â Bwyd
Mae’r mwyafrif o’r rheolau ar ddeunyddiau sydd mewn cysylltiad â bwyd yn cyd-fynd yn fras â rheolau’r UE er bod yna rai newidiadau gan gynnwys ar ddeunyddiau unigol a ganiateir a’r broses awdurdodi ar gyfer rhai plastigau. Bydd cysoni â rheolau’r UE ar blastigau, cerameg a deunyddiau eraill sy’n dod i gysylltiad â bwyd yn effeithio ar wneuthurwyr pecynwaith, proseswyr bwyd, labordai, manwerthwyr a’r GIG. Bydd yn diweddaru meysydd fel gofynion ar gyfer diogelwch cyswllt bwyd, safonau profi a deunyddiau a ganiateir.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Cyfarwyddebau 82/711/EEC a 85/572/EEC - Profi plastigau
- Cyfarwyddeb 78/142/EEC – Monomer finyl clorid
- Rheoliad 1935/2004 – Deunyddiau sydd mewn cysylltiad â bwyd
- Cyfarwyddeb 84/500/EEC – Eitemau ceramig
Mesurau eraill sy’n gysylltiedig â bwyd
Bydd cysoni â rheolau’r UE ar arbelydru, toddyddion echdynnu, dŵr mwynol, cynhyrchu organig, marcio lotiau ac adnabod gwartheg yn effeithio ar gynhyrchwyr dŵr potel, cyrff ardystio organig, cyfleusterau arbelydru a gweithredwyr systemau adnabod da byw. Bydd yn diweddaru meysydd fel gofynion cydymffurfio ar gyfer prosesu triniaethau, defnyddio toddyddion, dosbarthu cynhyrchion, prosesau ardystio a safonau adnabod anifeiliaid.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Cyfarwyddebau 1999/2/EC a 1999/3/EC – Cyfarwyddebau ymbelydredd ïoneiddio
- Cyfarwyddeb 2009/32/EC – Toddyddion echdynnu
- Cyfarwyddeb 2009/54/EC – Dyfroedd mwynol naturiol
- Rheoliad 2018/848 – Rheoliadau organig
- Rheoliad (Euratom) 2016/52 – Terfynau halogiad ymbelydrol
- Cyfarwyddeb 2011/91/EU – Adnabod lotiau bwyd
- Rheoliad 1760/2000 – Labelu cig eidion ac adnabod gwartheg
Cynhyrchion Bwyd Anifeiliaid a Hylendid
Bydd cysoni â rheolau’r UE yn effeithio ar felinau bwyd anifeiliaid, gweithgynhyrchwyr bwyd anifeiliaid, ffermwyr a chyrff maeth milfeddygol. Bydd yn diweddaru meysydd fel rhai gofynion ar gyfansoddiad a hylendid bwyd anifeiliaid.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 767/2009 – Rhoi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a’i ddefnyddio
- Cyfarwyddeb 2002/32/EC – Sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid
- Rheoliad 1831/2003 – Ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid
- Rheoliad 183/2005 – Gofynion hylendid bwyd anifeiliaid
- Rheoliad 2023/2419 – Labelu bwyd anifeiliaid anwes organig
Organebau a Addaswyd yn Enetig
Bydd cysoni â rheolaethau’r UE ar Organebau a Addaswyd yn Enetig yn effeithio ar gwmnïau biotechnoleg, cyflenwyr hadau, gwneuthurwyr bwyd anifeiliaid, sefydliadau anllywodraethol a grwpiau eiriolaeth defnyddwyr. Bydd yn diweddaru meysydd fel gofynion ar gyfer awdurdodi, olrhain a labelu organebau a addaswyd yn enetig a chynhyrchion sy’n deillio ohonynt. Mae’r rheolau hyn yn cadw dulliau’r Deyrnas Unedig a’r UE yn agos, gan roi gofynion cliriach a mwy rhagweladwy i weithredwyr wrth weithio gydag organebau a addaswyd yn enetig.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 1829/2003 – Awdurdodi bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig
- Rheoliad 1830/2003 – Olrhain a labelu organebau a addaswyd yn enetig
- Rheoliad 1946/2003 – Symud Organebau a Addaswyd yn Enetig ar draws ffiniau
- Cyfarwyddeb 2001/18/EC (Rhan C) – Rhyddhau organebau a addaswyd yn enetig yn fwriadol
Iechyd anifeiliaid
Bydd cysoni â fframweithiau iechyd anifeiliaid yr UE yn effeithio ar ffermwyr, bridwyr, masnachwyr, awdurdodau milfeddygol, asiantaethau iechyd cyhoeddus, y sector ceffylau, perchnogion anifeiliaid anwes, proseswyr bwyd a phroseswyr sy’n trin sgil-gynhyrchion. Bydd yn diweddaru meysydd fel gwyliadwriaeth, adnabod, cofrestru a systemau symud anifeiliaid byw, cynhyrchion eginol a sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 2016/429 – Cyfraith Iechyd Anifeiliaid
- Rheoliad 1069/2009 – Sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid
- Rheoliad 999/2001 – Atal a rheoli TSE
- Rheoliad 2160/2003 – Rheoli salmonela a milheintiau eraill
- Cyfarwyddeb 2003/99/EC – Monitro milheintiau ac asiantau milheintiau
Bridio Anifeiliaid
Bydd cysoni â rheolau’r UE yn effeithio ar sefydliadau bridio, cymdeithasau bridio pedigri, mewnforwyr ac allforwyr anifeiliaid bridio pedigri, cwmnïau gwasanaethau genetig, bridwyr ceffylau cystadlu, trefnwyr cystadlaethau, cludwyr ac awdurdodau milfeddygol. Bydd yn effeithio ar feysydd fel cofnodi, gwirio ac ardystio anifeiliaid bridio a chynhyrchion eginol, yn ogystal â gofynion adnabod, symud ac amodau sy’n llywodraethu cymryd rhan mewn cystadlaethau ar gyfer ceffylau.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 2016/1012 – Amodau sootechnegol ar gyfer bridio a masnach anifeiliaid
- o Cyfarwyddeb 90/428/EEC – Masnach mewn ceffylau ar gyfer cystadlaethau
Lles, Cludiant a Lladd Anifeiliaid
Bydd cysoni â rheolau’r UE yn effeithio ar gludwyr, lladd-dai, elusennau lles ac arolygwyr gorfodi. Bydd yn diweddaru meysydd fel cludiant, trin a thrafod a gofynion lles.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 1255/97 – Meini prawf ar gyfer mannau aros (trafnidiaeth)
- Rheoliad 1099/2009 – Lles adeg lladd
- Rheoliad 1/2005 – Lles anifeiliaid wrth eu cludo
Iechyd Planhigion
Bydd cysoni â rheolau’r UE yn effeithio ar fusnesau garddwriaeth, meithrinfeydd, mewnforwyr ac arolygwyr iechyd planhigion. Bydd yn diweddaru meysydd fel disodli Pasbortau Planhigion y Deyrnas Unedig gyda Phasbortau Planhigion yr UE sy’n fodd i ddileu gwiriadau ar y ffin rhwng Prydain Fawr a’r UE ac ar gyfer symudiadau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon. Er mwyn diogelu bioddiogelwch, bydd hefyd yn ailgyflwyno system hysbysu ar gyfer mewnforion planhigion risg uchel o’r UE, yn debyg i’r drefn a oedd ar waith cyn i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r UE.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 2016/2031 – Mesurau diogelu rhag plâu planhigion
Marchnata Deunydd Atgenhedlu Planhigion
Bydd cysoni â’r gofynion marchnata ar gyfer deunydd atgenhedlu planhigion a choedwigaeth, yn ogystal â hawliau amrywogaethau planhigion, yn helpu i ddatblygu a chynhyrchu hadau a deunydd atgenhedlu planhigion ac yn rhoi mynediad haws i farchnadoedd y Deyrnas Unedig a’r UE, gan roi budd i fridwyr a thyfwyr planhigion y Deyrnas Unedig. Mae’r busnesau a’r sefydliadau yr effeithir arnynt yn cynnwys bridwyr planhigion, cwmnïau hadau, ffermwyr, tyfwyr, meithrinfeydd coedwigaeth a chyflenwyr garddwriaethol.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Cyfarwyddeb 66/401/EEC – Marchnata hadau planhigion bwyd anifeiliaid
- Cyfarwyddeb 66/402/EEC – Marchnata hadau grawn
- Cyfarwyddeb 68/193/EEC – Deunydd lluosogi gwinwydd
- Cyfarwyddeb 98/56/EC – Deunydd lluosogi planhigion addurniadol
- Cyfarwyddeb 1999/105/EC – Marchnata deunydd atgenhedlu coedwigoedd
- Cyfarwyddeb 2002/53/EC – Mathau o blanhigion amaethyddol – catalog cyffredin
- Cyfarwyddeb 2002/54/EC – Marchnata hadau betys
- Cyfarwyddeb 2002/55/EC – Marchnata hadau llysiau
- Cyfarwyddeb 2002/56/EC – Marchnata tatws hadyd
- Cyfarwyddeb 2002/57/EC – Marchnata hadau planhigion olew a ffeibr
- Cyfarwyddeb 2008/72/EC – Deunydd lluosogi/plannu llysiau
- Cyfarwyddeb 2008/90/EC – Deunydd lluosogi planhigion ffrwythau
- Rheoliad 2100/94 – Hawliau amrywogaethau planhigion
Rheolaethau Swyddogol
Bydd cysoni â rheolau’r UE yn effeithio ar awdurdodau porthladdoedd, awdurdodau iechyd porthladd, swyddogion iechyd yr amgylchedd a busnesau bwyd-amaeth a reoleiddir, yn ogystal â mewnforwyr ac allforwyr nwyddau SPS. Bydd yn diweddaru meysydd fel rheolaethau swyddogol gan ddileu rhai gwiriadau ar ffin Prydain Fawr a’r UE ac ar gyfer symudiadau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan wneud masnach yn haws. Bydd gwiriadau ar fewnforion o weddill y byd yn parhau a bydd cyfraddau gwiriadau’r Deyrnas Unedig yn cyd-fynd â’r rhai a gymhwysir gan yr UE.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad (EU) 2017/625 – Rheolaethau swyddogol ar draws y gyfraith bwyd, bwyd anifeiliaid, planhigion ac anifeiliaid
Cynhyrchion Diogelu Planhigion
Bydd cysoni â rheolau’r UE ar awdurdodi sylweddau gweithredol, lefelau gweddillion a rhoi cynhyrchion diogelu planhigion (PPPs), y cyfeirir atynt yn gyffredin fel plaladdwyr, ar y farchnad yn creu goblygiadau i ffermwyr a thyfwyr, gweithgynhyrchwyr amaeth-gemegol, dosbarthwyr, manwerthwyr bwyd a busnesau eraill sy’n defnyddio PPPs. Bydd angen diweddariadau i brosesau cymeradwyo ar gyfer cynhyrchion diogelu planhigion, cydymffurfio ag uchafsymiau gweddillion yr UE mewn bwyd a chadw at reolau’r UE sy’n llywodraethu marchnata a defnyddio PPPs.
Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys: - Rheoliad 1107/2009 – Awdurdodi cynhyrchion diogelu planhigion - Rheoliad 396/2005 – Uchafswm lefelau gweddillion plaladdwyr
Rheoliad Cynhyrchion Bioladdol
Bydd cysoni â rheolau’r UE ar gymeradwyo sylweddau gweithredol bioladdol ac awdurdodi cynnyrch bioladdol yn creu goblygiadau i wneuthurwyr sylweddau gweithredol a chynhyrchion bioladdol, yn ogystal â dosbarthwyr a defnyddwyr cynhyrchion bioladdol. Bydd angen cadw at ofynion yr UE sy’n llywodraethu darparu a defnyddio cynhyrchion bioladdol. Gall y newidiadau yma effeithio ar awdurdodi cynhyrchion, labelu, cadwyni cyflenwi ac arferion gweithredol sefydliadau ar draws y sector bioladdwyr.
Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys: - Rheoliad 528/2012 – Trefnu bod cynhyrchion bioladdol ar gael ar y farchnad a’u defnyddio
Iechydol a Ffytoiechydol – Arall
Bydd cysoni â rheolau’r UE ar sylweddau hormonaidd a sylweddau tebyg penodol, gan gynnwys rheolaethau ar ddefnyddio somatotroffin buchol (BST), yn effeithio ar ffermwyr gwartheg a moch, darparwyr gwasanaethau milfeddygol a phroseswyr cig a bydd angen diweddaru rheolaethau ar ddefnyddio sylweddau hormonaidd wrth gynhyrchu da byw a gofynion milfeddygol cysylltiedig.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Cyfarwyddeb 96/22/EC – Gwahardd sylweddau hormonaidd/thyrostatig wrth ffermio da byw
- Penderfyniad y Cyngor 1999/879/EC – Rhoi somatotroffin buchol (BST) ar y farchnad a’i roi i anifeiliaid
Meddyginiaethau Milfeddygol – Uchafsymiau Gweddillion ac agweddau ar ymwrthedd gwrthficrobaidd sy’n berthnasol i’r fasnach
Mae rheolau sy’n llywodraethu sylweddau ffarmacolegol weithredol a ddefnyddir mewn meddyginiaethau milfeddygol yn dal yn cyd-fynd yn agos â deddfwriaeth yr UE fel y gall busnesau sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi meddyginiaethau milfeddygol barhau i weithredu yn unol â’r un uchafsymiau gweddillion ac asesiadau diogelwch ag ar hyn o bryd.
Bydd cysoni â rheolau’r UE ar uchafsymiau gweddillion a meddyginiaethau milfeddygol yn effeithio ar gwmnïau fferyllol, cynhyrchwyr da byw, rheoleiddwyr ac awdurdodau diogelwch bwyd.
- Y ddeddfwriaeth sydd wedi’i chynnwys:
- Rheoliad 470/2009 – Uchafsymiau gweddillion meddyginiaethau milfeddygol
- Rheoliad 2019/6 – Rheolau ar ymwrthedd gwrthficrobaidd sy’n berthnasol i’r fasnach