Stori newyddion

System Ddigidol ar gyfer Rheoli Achosion yn Llys y Goron: newidiadau i ddadlennu gwybodaeth

Cyflwyno swyddogaethau newydd i alluogi uwchlwytho deunyddiau dadlennu heb eu defnyddio.

O ddydd Llun yr 16eg o Dachwedd 2020, bydd swyddogaeth newydd ar gael yn y System Ddigidol ar gyfer Rheoli Achosion (DCS) yn Llys y Goron a fydd yn caniatáu i Wasanaeth Erlyn y Goron, ac erlynwyr eraill yn y dyfodol, uwchlwytho unrhyw ddeunyddiau dadlennu heb eu defnyddio i ddwy adran newydd o fewn DCS.

Bydd y ddwy adran newydd wedi’u leoli rhwng Adran J (exhibits) ac Adran K (transcripts) a dyma’r manylion:

  • deunyddiau dadlennu heb eu defnyddio – hysbysiadau ac amserlenni – bydd yr adran hon yn cynnwys yr hysbysiad dadlennu, yr amserlen ar gyfer deunyddiau dadlennu heb eu defnyddio a’r dogfennau sy’n ymwneud â rheoli’r dadlennu. Bydd y dogfennau yn yr adran hon yn weladwy i bawb sydd â rôl a ganiateir gan yr adrannau, ac felly bydd barnwyr yn gallu eu gweld.

  • deunyddiau dadlennu heb eu defnyddio – bydd yr adran hon yn cynnwys yr amserlen ar gyfer dadlennu’r deunyddiau heb eu defnyddio ac unrhyw ddeunyddiau a ddadlennir. Ni fydd modd i farnwyr weld y dogfennau sydd yn yr adran hon ond bydd modd i’r erlyniad a’r amddiffyniad eu gweld. Mewn achosion lle mae mwy nag un diffynnydd, bydd yr adran yn cael ei rhannu fel yr adrannau eraill a chaniateir mynediad i’r amddiffyniad gan y parti sy’n uwchlwytho dogfennau (sef yr erlynydd yn achos yr adran hon)

Dim ond yr erlynydd fydd yn gallu uwchlwytho deunyddiau i’r adrannau hyn ac fe anfonir hysbysiad e-bost at y partïon i ddweud wrthynt pa ddeunyddiau sydd wedi’u huwchlwytho.

Noder ni fydd gan farnwyr fynediad at yr adran sy’n cynnwys deunyddiau a ddadlennwyd. Mae hyn yn angenrheidiol am resymau diogelu data oherwydd, dan y Ddeddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol, nid gwaith y barnwr yw adolygu’r deunyddiau hynny. Os hoffech ddangos eitem i farnwr sy’n gofyn am fynediad at ddeunydd sydd yn yr adran gyfyngedig, gallwch lawrlwytho’r ddogfen o’r adran dadlennu a’i huwchlwytho i’r adran ‘trial documents’.

Fe ddiwygir strwythur safonol ffeiliau i adlewyrchu’r adrannau deunyddiau a ddadlennwyd heb eu defnyddio ar DCS. Bydd y tudalennau arweiniad mewnol ac allanol hefyd yn cael eu diweddaru i gynnwys y newidiadau.

Pan fydd yr wybodaeth sydd i’w dadlennu yn dra sensitif, mae’n bosib y bydd yr erlynydd yn dewis dadlennu’r wybodaeth mewn rhyw ffordd arall.

Cyhoeddwyd ar 11 November 2020