Datganiad i'r wasg

Porth y Gorllewin trawsffiniol yn ffurfio 'pwerdy' newydd yn economi'r Deyrnas Unedig

Lansio Porth y Gorllewin yn ICC Cymru

From L-R: Secretary Alun Cairns (Wales), Katherine Bennett (Airbus) and Secretary Robert Jenrick (MHCLG)

From L-R: Secretary Alun Cairns (Wales), Katherine Bennett (Airbus) and Secretary Robert Jenrick (MHCLG)

Gall cronni sgiliau ac arbenigedd trawsffiniol ar ddwy ochr aber Hafren yrru ffyniant yn y rhanbarth - dyna fydd neges Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, a Robert Jenrick, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, heddiw (1 Tachwedd) mewn digwyddiad i lansio Porth y Gorllewin.

Mae Porth y Gorllewin yn bartneriaeth strategol sy’n hyrwyddo ac yn cynyddu twf economaidd ledled de Cymru a gorllewin Lloegr i greu swyddi, hybu ffyniant a chynorthwyo prifysgolion a busnesau byd-enwog y rhanbarth. Gan gysylltu nifer o drefi a dinasoedd ar draws rhanbarth eang bob ochr i afon Hafren, bydd Porth y Gorllewin yn adlewyrchu gwaith llwyddiannus, sefydledig Pwerdy’r Gogledd ac Injan Canolbarth Lloegr, a bydd yn ceisio sicrhau bod y rhanbarth yn gystadleuol yn fyd-eang.

Yn yr ICC yng Nghasnewydd, bydd Mr Cairns a Mr Jenrick yn dweud wrth gynulleidfa o bartneriaid o’r sectorau busnes, addysg, diwylliannol a digidol bod gan Borth y Gorllewin y potensial i drawsnewid rhagolygon economaidd y rhanbarth, gan ei gwneud hi’n haws i gynnal busnes, cynyddu buddsoddiad a thwristiaeth a chreu swyddi.

Mae Robert Jenrick, yr Ysgrifennydd Cymunedau a Llywodraeth Leol, yn darparu £400,000 o’r cyllidebau presennol ar gyfer cyllid cychwynnol i roi hwb i’r bartneriaeth.

Cyhoeddir mai Katherine Bennett, Uwch Is-lywydd Airbus, fydd cadeirydd dros dro cyntaf Porth y Gorllewin, a fydd yn arwain ac yn siapio llywodraethu, rheoli a blaenoriaethau cychwynnol y bartneriaeth.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn dweud:

Bydd Porth y Gorllewin yn darparu arena ar gyfer harneisio cryfderau dwy ardal gyfagos sydd â hunaniaethau a thraddodiadau gwahanol.

Mae de Cymru a gorllewin Lloegr eisoes yn ffurfio rhanbarth economaidd naturiol gyda rhwydweithiau trafnidiaeth rhagorol o ran ffyrdd a rheilffyrdd a chysylltiadau sefydledig ym myd busnes, diwydiant ac addysg.

Gall y rhanbarth fod yn bwerdy go iawn yn economi’r Deyrnas Unedig os manteisiwn ar y cyfle hwn i galfaneiddio ei gryfderau niferus i gynhyrchu syniadau, arloesi ac annog entrepreneuriaeth er mwyn ysgogi swyddi a thwf.

Mae hefyd yn tynnu sylw at sut mae ein Teyrnas Unedig yn cael ei chryfhau drwy gynyddu a harneisio sgiliau a doniau ein cenhedloedd a’n rhanbarthau mewn partneriaeth.

Bydd y Gwir Anrhydeddus Robert Jenrick AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, yn dweud:

Bydd Porth y Gorllewin yn defnyddio doniau amrywiol dwy ochr afon Hafren i ddarparu pwerdy economaidd a fydd yn sbarduno twf ledled y rhanbarth.

Gyda’r ardal yn barod yn ganolfan fawr ar gyfer elfennau seiber a thechnoleg, ymchwil, gweithgynhyrchu a’r diwydiannau creadigol - mae’n amlwg bod potensial enfawr iddyn nhw gyflawni pethau mwy byth gyda’i gilydd.

Wrth i’r Llywodraeth hon weithio i lefelu ein heconomïau rhanbarthol, bydd y fenter hon yn rhoi llais pwerus i dde orllewin Lloegr a de Cymru, yn union fel mae Pwerdy’r Gogledd ac Injan Canolbarth Lloegr wedi ei wneud dros yr ardaloedd hynny.

Ychwanegodd Sajid Javid, Canghellor y Trysorlys:

Heddiw rydym yn cyhoeddi partneriaeth gyffrous i roi hwb i dwf ledled Cymru a de-orllewin Lloegr. “Mae Porth y Gorllewin yn llawn trefi a dinasoedd prysur ac mae hanes diwylliannol a diwydiannol cyfoethog yma - o gawsiau enwog Ceunant Ceunant a Baddonau Rhufeinig eiconig Caerfaddon, i ddiwydiant teledu ffyniannus Bae Caerdydd.

Wnawn ni ddim gorffwys nes ein bod ni wedi datgloi’r potensial sydd gan y rhanbarth hwn i’w gynnig wrth i ni lefelu cyfleoedd ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd Katherine Bennett CBE, Cadeirydd Porth y Gorllewin, yn dweud:

Gyda phoblogaeth fywiog o fwy na phedair miliwn o bobl, prifysgolion o safon fyd-eang, cysylltiadau trafnidiaeth cryf, a chryfderau a rennir ar draws sectorau allweddol - o ynni gwyrdd a pheirianneg i’r celfyddydau a’r cyfryngau digidol - rwy’n argyhoeddedig bod gorllewin Prydain yn bwerdy sy’n aros i ddigwydd.

Drwy gydweithio, ar draws y llywodraeth, y byd academaidd, a diwydiant, gyda busnesau yn rhan greiddiol o hynny, rydym yn benderfynol o wireddu’r weledigaeth hon.

Yn dilyn digwyddiad lansio dydd Gwener yng Nghasnewydd, bydd Mr Cairns a Mr Jenrick yn ymweld â chanolbwynt menter Bryste yn yr Engine Shed, lle byddant yn cwrdd â pherchnogion a staff rhai o’r busnesau arloesol sydd wedi eu lleoli yno.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 1 November 2019