Skip to main content
Stori newyddion

Cychwyn ymchwiliad troseddol ar ôl arestio pedwar dyn a thynnu cig anghyfreithlon

Mae ymgyrch partneriaeth gan Gyngor Dudley a’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) wedi arwain at bedwar arestiad a gwaredu dros bedair tunnell o gig anghyfreithlon.

Pile of raw chicken drumsticks / Pentwr o ddrymffyn cyw iâr amrwd

Bu swyddogion o’r awdurdod lleol a’r NFCU yn gweithio gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, CThEF a chynrychiolwyr o’r Swyddfa Gartref i fynd i gyfeiriad yn Dudley.

Yn ystod yr ymgyrch ar y cyd, a dargedodd ffatri torri cig heb ei chymeradwyo, arestiwyd pedwar dyn a thynnwyd tua phedair tunnell fetrig a chwarter o gig anghyfreithlon oddi ar y farchnad.

Cymerwyd camau gorfodi gan yr awdurdod lleol i fynd i’r afael â phryderon diogelwch bwyd uniongyrchol.

Er mwyn sicrhau bod diogelwch bwyd yn cael ei gynnal, rhaid i rai gweithgareddau gael eu cymeradwyo gan yr awdurdodau. Mae cig sy’n cael ei roi’n anghyfreithlon yn y gadwyn fwyd yn osgoi’r gwiriadau diogelwch a hylendid trylwyr sy’n ofynnol yn y DU, gan olygu y gall gario clefydau a halogion sy’n peryglu defnyddwyr.

Mae’r NFCU a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ehangach wedi cyhoeddi Rhybudd Bwyd er Gweithredu, ac maent yn gweithio gydag awdurdodau lleol i olrhain y cig hwn a’i dynnu oddi ar y farchnad.

Mae swyddogion o’r NFCU bellach yn archwilio manylion y cynnyrch a’r gwaith papur a gasglwyd ac maent wedi dechrau ymchwiliad troseddol.

Dywedodd Will Simpson, Swyddog Cudd-wybodaeth Rhanbarthol yr NFCU yn yr ASB:

Mae’r NFCU wedi bod yn gweithio’n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyngor Dudley a Gwasanaeth Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, i ganfod y bobl hynny sydd dan amheuaeth o weithgarwch troseddol.

Mae’r ymgyrch hwn yn rhan o waith parhaus yr NFCU i amharu ar y fasnach gig anghyfreithlon, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i olrhain y cynhyrchion hyn a’u tynnu oddi ar y silffoedd. Rhaid i fusnesau bwyd wneud gwaith diwydrwydd dyladwy ar eu cyflenwyr i sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol i werthu bwyd sy’n ddiogel ac sy’n cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.  

Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus ynghylch y bygythiad o gig anghyfreithlon yn mynd i mewn i’r gadwyn fwyd, a byddwn yn parhau i gymryd camau i ddiogelu’r cyhoedd. Gall unrhyw un sy’n amau trosedd bwyd roi gwybod amdano’n ddiogel ac yn gyfrinachol i’r NFCU. Gallwch roi gwybod am droseddau bwyd ar-lein neu dros y ffôn ar 0800 028 1180.

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Harley, arweinydd Cyngor Dudley:

Mae’r ymgyrch hwn yn dangos pa mor werthfawr yw gweithio mewn partneriaeth wrth ddiogelu trigolion a chynnal hyder yn y gadwyn cyflenwi bwyd.

Gan weithio ochr yn ochr â’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd a phartneriaid gorfodi eraill, helpodd swyddogion Cyngor Dudley i nodi a mynd i’r afael â gweithgarwch a oedd yn peri risg bosib i iechyd y cyhoedd. Mae gwerthu cig anghyfreithlon yn osgoi’r safonau diogelwch a hylendid llym sydd ar waith i ddiogelu defnyddwyr, gan wneud camau gorfodi fel hyn yn hanfodol.

Hoffwn ddiolch i’r holl asiantaethau a gymerodd ran am eu gwaith cydweithredol. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy’n gweithredu y tu hwnt i’r gyfraith ac yn peryglu diogelwch y cyhoedd.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Awst 2026