Mae swyddfa Tŷ’r Cwmnïau yn Llundain yn symud
Mae ein canolfan gwybodaeth yn Llundain yn symud i swyddfa newydd ar 2 Hydref 2019.

O ddydd Llun 7 Hydref 2019, gallwch ymweld â’n swyddfa newydd yn Llundain yn San Steffan.
Companies House
Ground Floor
80 Petty France
Westminster
London
SW1H 9EX
Bydd ein swyddfa newydd yn parhau i ddiwallu anghenion ein busnes a’n cwsmeriaid yn llawn. Byddwn yn cynnig yr un gwasanaethau cofrestru a chwilio â’n swyddfa bresennol yn Llundain.