Stori newyddion

Ni fydd swyddfa a gwasanaethau cownter Tŷ'r Cwmnïau Llundain yn ailagor

Ni fydd y swyddfa yn Llundain a'n gwasanaethau cownter ym Melfast, Caeredin a Chaerdydd yn ailagor.

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), cafodd swyddfa Tŷ’r Cwmnïau yn Llundain a’r cownteri cyhoeddus yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin eu cau.

Gan weithio gyda chwsmeriaid, rydym wedi rhoi ffyrdd newydd ar waith i gyflwyno dogfennau, gwella ein cynnig digidol a lleihau dibyniaeth ar gownteri cyhoeddus.

Wrth i ni barhau i drawsnewid ein gwasanaethau i ddarparu gwasanaeth gwirioneddol fodern a digidol, penderfynwyd na fydd ein cownteri cyhoeddus yn ailagor.

Mae hyn yn golygu na fydd swyddfa Tŷ’r Cwmnïau yn Llundain, sydd wedi bod ar gau ers mis Mawrth 2020, yn ailagor chwaith.

Mae’n gyflymach ac yn haws ffeilio gwybodaeth ar-lein. Mae ein gwasanaethau ar-lein ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gwyliwch ein fideos YouTube i gael arweiniad ar sut i ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 29 July 2022