Stori newyddion

Companies House Direct a WebCHeck yn cau

Mae ein gwasanaethau Companies House Direct (CHD) a WebCHeck yn cau ar 30 Tachwedd 2023.

Wnaethom gyhoeddi ein bwriad i gau Companies House Direct (CHD) a WebCHeck ar Hydref 2020.

Gallwn nawr gadarnhau y bydd y ddau wasanaeth yn cau ar 30 Tachwedd 2023.

Dylai defnyddwyr ddefnyddio’r gwasanaeth Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni yn lle.

Mae’r nodweddion presennol yn cynnwys:

  • chwilio manwl am gwmni
  • chwilio am gwmni wedi’i diddymu
  • adroddiadau cipolwg ar gwmni
  • chwilio trwy’r wyddor
  • cyfleuster archebu ar gyfer tystysgrifau, dogfennau ardystiedig a delweddau coll

Mae’r gwasanaeth Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni yn wasanaeth cwbl hygyrch ac mae eisoes wedi disodli’r rhan fwyaf o’r swyddogaethau a ddarperir gan CHD a WebCHeck.

Mae’r holl gofnodion o gwmnïau a ddiddymwyd ers Ionawr 2010 ar gael ar wasanaeth Dod o hyd i a diweddaru gwybodaeth cwmni. Rydym yn parhau i gadw cofnodion o gwmnïau wedi’u diddymu am 20 mlynedd o ddyddiad diddymu, a’n bwriad hirdymor yw sicrhau bod yr holl gofnodion hyn ar gael am ddim ar wasanaeth gwybodaeth Find and update company information.

Fodd bynnag, ni fydd cofnodion wedi’u diddymu o’r cyfnod cyn Ionawr 2010 hyd at 20 mlynedd o ddyddiad diddymu’r gwasanaeth ar gael ar y gwasanaeth nes bod y mesurau sy’n ymwneud ag atal gwybodaeth bersonol yn y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol yn cael eu gweithredu.

Cyhoeddwyd ar 30 March 2023