Tŷ'r Cwmnïau yn penodi Luisa Fulci fel Cyfarwyddwr Trawsnewid a Newid Busnes
Mae Luisa Fulci yn ymuno â Thŷ'r Cwmnïau fel Cyfarwyddwr Trawsnewid a Newid Busnes yn ystod cyfnod allweddol o newid digidol a gweithredol.

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi penodi Luisa Fulci fel ei Gyfarwyddwr Trawsnewid a Newid Busnes newydd.
Mae Luisa yn dod â chyfoeth o brofiad o’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Fel Cyfarwyddwr Cwsmeriaid Digidol a Gwasanaethau Masnachol yng Nghyngor Bwrdeistref Fetropolitan Dudley, Arweiniodd y gwaith o foderneiddio gwasanaethau digidol a masnachol ar draws tai, gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau amgylcheddol, iechyd y cyhoedd a gweithrediadau corfforaethol.
Cyn hyn, treuliodd Luisa 16 mlynedd yn y Post Brenhinol, lle’r oedd ganddi sawl rôl arweinyddiaeth uwch. Fel Cyfarwyddwr Masnachol, gweithredodd fentrau diwygio mawr i wasanaethau cwsmeriaid a chyflwynodd strategaethau masnachol a digidol a oedd yn blaenoriaethu anghenion cwsmeriaid.
Ar hyn o bryd mae Luisa yn aelod anweithredol o’r bwrdd yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF, ar ôl cael ei phenodi ym mis Ebrill 2024. Mae ei rolau anweithredol blaenorol yn cynnwys safleoedd bwrdd yn Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Prifysgol Ysbytai Dwyrain Caint ac Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Camden ac Islington. Yn Rheoliad CILEx, bu hefyd yn cynghori ar drawsnewid digidol a chynorthwyo ymdrechion i wella amrywiaeth yn y proffesiwn cyfreithiol.
Mae Luisa wedi ymuno â’r tîm Gweithredol yn Nhŷ’r Cwmnïau ar gyfnod arwyddocaol o adnewyddu. Mae ei phenodiad yn adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i wella prosesau digidol, sicrhau effeithlonrwydd gweithredol a chreu gwasanaethau o safon i gwsmeriaid a rhanddeiliaid.
Wrth fyfyrio ar ei phenodiad, dywedodd Luisa:
Rwy’n falch iawn o fod yn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau ar adeg o newid mor dyngedfennol. Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â fy nghydweithwyr newydd i adeiladu ar y gwaith sylweddol sydd eisoes wedi dechrau i greu sefydliad mwy modern, digidol, ac un sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.