Stori newyddion

Tŷ'r Cwmnïau yn penodi 2 ddyfarnwr annibynnol newydd

Penodwyd Brian Stanton a Deirdre Domingo yn ddyfarnwyr annibynnol yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Gelwir ar ddyfarnwyr annibynnol Tŷ’r Cwmnïau i ystyried apeliadau a chwynion ffurfiol, i gomisiynu ac adolygu adroddiadau ymchwiliad, ac i benderfynu ar gamau gweithredu priodol. Lle y bo’n briodol, maent hefyd yn gwneud argymhellion i Gofrestrydd y Cwmnïau i wella ein gwasanaeth.

Mae Brian Stanton yn gyfreithiwr cymwysedig, yn gyfarwyddwr Innovo Law, ac yn gyn dirprwy gyfarwyddwr yn Adran Gyfreithiol y Llywodraeth. Mae ganddo brofiad helaeth o waith ymholiad ac ymchwiliol, gan gynnwys yn y Swyddfa Twyll Difrifol a nifer o ymholiadau cyhoeddus proffil uchel.

Mae Deirdre Domingo yn gyfreithiwr cymwysedig ac yn gyfarwyddwr Innovo Law. Mae’n gyn-gyfreithiwr o lywodraeth y DU, ac mae’n arbenigo mewn ymchwiliadau ac adolygiadau annibynnol, ymholiadau cyhoeddus a chwestau. Fe’i derbyniwyd i’r Bar Efrog Newydd ac mae ganddi Feistr Cyfreithiau mewn Cyfraith Ryngwladol. Bydd y pâr yn dod â sgiliau a phrofiad gwerthfawr o’r sectorau preifat a chyhoeddus.

Nid yw dyfarnwr annibynnol yn rhan o strwythur rheoli Tŷ’r Cwmnïau ac mae’n gweithredu fel canolwyr diduedd beth bynnag sy’n dod o fewn eu cylch gwaith. Rhaid iddynt sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth cyflym, diduedd a hygyrch i’r achwynydd.

Meddai Jill Callan, Cyfarwyddwr Cyflenwi Cwsmeriaid yn Nhŷ’r Cwmnïau:

Rydym yn falch iawn o benodi Brian a Deirdre i’n tîm o ddyfarnwyr annibynnol.

Mae gan y ddau ohonynt brofiad helaeth ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus a byddant yn dod â gwybodaeth ddihafal heb eu hail i’r maes gwaith pwysig hwn.

Maent wedi dangos ymrwymiad a dealltwriaeth ddofn o’r person y tu ôl i’r gŵyn a byddant yn gwneud eiriolwyr rhagorol i’r cwsmer.

Cyhoeddwyd ar 28 June 2022