Skip to main content
Stori newyddion

Tŷ’r Cwmnïau a’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) yn uno i rybuddio am geisiadau am daliadau digymell

Mae Tŷ’r Cwmnïau a’r IPO yn rhybuddio busnesau am geisiadau am daliadau digymell a sut i’w nodi.

Mae Tŷ’r Cwmnïau a’r IPO yn gofyn i fusnesau fod yn wyliadwrus o geisiadau camarweiniol am daliadau, a anfonir gan sefydliadau nad ydynt yn gysylltiedig â’r llywodraeth.

Mae’r ceisiadau hyn fel arfer ar ffurf anfonebau sy’n gofyn am daliad am wasanaethau Tŷ’r Cwmnïau a’r IPO.

Beth i fod yn wyliadwrus ohono

Fel arfer, caiff anfonebau eu hanfon drwy’r post i gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, ond gellir eu hanfon drwy e-bost hefyd. Gall yr anfonebau hyn ofyn am daliad am bris uchel iawn ar gyfer gwasanaethau sydd ar gael am ffi llawer is – neu am ddim – yn uniongyrchol o’r ffynonellau cyfreithlon: Tŷ’r Cwmnïau, Cyfreithwyr Eiddo Deallusol neu’r IPO.

Maent fel arfer yn gofyn am daliad i:

  • osod neu hawlio eich cyfrif Tŷ’r Cwmnïau ar-lein
  • dilysu eich cyfrif Tŷ’r Cwmnïau neu wirio eich manylion
  • adnewyddu eich nod masnach neu ei gynnwys ar ‘gofrestr ar-lein unigryw’

Sut i wirio a yw llythyr neu e-bost yn ddilys

Os byddwch yn cael llythyr neu e-bost yn gofyn am daliad ac nad ydych yn siŵr os yw’n ddilys, gallwch:

  • wirio unrhyw gyfeiriadau gwefan sydd yn y llythyr neu’r e-bost, a chyfeiriadau e-bost o safleoedd generig – darperir gwasanaethau swyddogol Tŷ’r Cwmnïau a’r IPO drwy GOV.UK
  • chwilio am ymadawiadau sy’n nodi nad yw’r sefydliad yn gysylltiedig â’r llywodraeth
  • cysylltu â ni’n uniongyrchol i wirio unrhyw geisiadau

Os ydych yn dewis trydydd parti i gynrychioli eich cwmni, efallai y bydd angen i chi dalu am eu gwasanaethau. Gall y rhain fod yn fusnesau dilys sy’n cynnig gwasanaethau ar wahân i’r rhai a ddarperir yn uniongyrchol gan Dŷ’r Cwmnïau a’r IPO.

Rhoi gwybod am gyswllt amheus 

Os ydych chi’n ansicr ynglŷn â llythyr neu e-bost sydd wedi dod i law, cysylltwch â Thŷ’r Cwmnïau, yr IPO neu’r sefydliad sy’n cynrychioli eich cwmni’n uniongyrchol cyn gwneud unrhyw daliad.

Dylech roi gwybod am weithgarwch amheus i Adrodd Twyll, a’ch swyddfa Safonau Masnach leol. Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll, dylech roi gwybod am hyn i’r heddlu drwy Adrodd Twyll.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Mai 2026