Stori newyddion

Profi’r Platfform Cyffredin yn y llysoedd troseddol

Bydd system rheoli achosion digidol newydd yn cael ei phrofi gan gyfres o lysoedd ynadon a Llysoedd y Goron o fis Medi 2020 ymlaen.

Photograph of a courtroom

Mae’r Platfform Cyffredin yn caniatáu i bawb sy’n ymwneud ag achos troseddol gael mynediad at wybodaeth berthnasol, gan gynnwys y farnwriaeth, cyfreithwyr a bargyfreithwyr, Gwasanaeth Erlyn y Goron a staff y llys.

Bydd pob llys sydd wedi’i ddewis ar draws Cymru a Lloegr i brofi’r system gyntaf yn gwneud hynny cyn i’r system gael ei chyflwyno i bob llys troseddol dros gyfnod o 12 mis. Derby fydd y llys cyntaf i brofi’r system ac yna bydd y llysoedd eraill sy’n rhan o’r fenter yn ei phrofi yn eu tro.

Dyma’r llysoedd troseddol fydd yn treialu system y Platfform Cyffredin

  • Llys Ynadon a Llys y Goron Derby, a Llys Ynadon Chesterfield
  • Llys Ynadon a Llys y Goron Bryste
  • Uned Ganolog Northumbria sy’n cynnwys: Llys Ynadon Gogledd Tyneside, Llys Ynadon Canol a De ddwyrain Northumberland, a Llys y Goron Newcastle
  • Llys Ynadon Warrington a Llys y Goron Caer
  • Llys Ynadon Guildford/Llys Ynadon Staines a Llys y Goron Guildford
  • Llys Ynadon a Llys y Goron Croydon
  • Llys Ynadon Llanelli a Llys y Goron Abertawe

Beth yw manteision y system hon?

Bydd modd i bawb sy’n ymwneud ag achos weld yn yr holl wybodaeth berthnasol yn ddigidol, megis y cyhuddiadau, y dystiolaeth a’r canlyniadau. Caiff mynediad at wahanol fath o wybodaeth ei reoli’n ddiogel i sicrhau mai dim ond y deunydd perthnasol y bydd pob parti yn ei weld.

Mae’r Platfform Cyffredin yn lleihau’r angen i ymdrin â dogfennau â llaw yn ogystal â’r nifer o ddogfennau papur a gynhyrchir. Mae hefyd yn cael gwared â’r angen i gopïo gwybodaeth o un platfform digidol i un arall yn ystod camau gwahanol achos, gan wella’r ffordd y mae modd cael mynediad at achosion troseddol, y ffordd y maent yn cael eu rheoli a’r ffordd y maent yn cael eu prosesu.

Ym mhen hir a hwyr ni fyddwn angen y rhaglenni presennol sydd gennym: Libra, XHIBIT, Bench, Court Store a Digital Mark-Up oherwydd y bydd gennym un system fydd yn gwneud y cyfan.

Meddai Amanda Lowndes, Pennaeth Gwaith Troseddol Canolbarth Lloegr:

Rydym yn hynod o falch ein bod wedi cael ein dewis i fod y llys cyntaf i brofi system ddigidol y Platfform Cyffredin; mae’n brawf o’r hyder sydd ynom y gallwn wynebu’r her hon yn llwyddiannus yn yr amseroedd ansicr hyn. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r gwaith hwn am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i gefnogi’r gwaith o brofi’r platfform digidol newydd hwn.

Drwy roi’r holl wybodaeth am achos troseddol mewn un lle, ac ar ffurf ddigidol, rwy’n hyderus y bydd y Platfform Cyffredin yn ein helpu ni i gefnogi pob sefydliad o fewn y system gyfiawnder troseddol.

Bydd yn ein helpu ni i weithio’n fwy effeithiol gyda’n gilydd, bydd yn lleihau oediadau a bydd yn haws i ni rannu tystiolaeth. Rydym yn awyddus i weithio gyda’n barnwyr ac eraill i brofi’r cynnyrch digidol hwn yn ein llys.

Mae staff y llys, y farnwriaeth a’r partneriaid cyfiawnder troseddol yn y lleoliad cyntaf eisoes yn cael hyfforddiant a chefnogaeth.

Unwaith y bydd y cam hwn o brofi’r system wedi’i gwblhau, bydd wedyn yn cael ei chyflwyno’n raddol ym mhob llys troseddol yng Nghymru a Lloegr.

Cyhoeddwyd ar 24 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 October 2020 + show all updates
  1. Updated list of Criminal Coruts trialling the common platform.

  2. First published.