Stori newyddion

Mae’r Platfform Cyffredin nawr yn weithredol mewn mwy o lysoedd troseddol mabwysiadu cynnar

Mae’r system ddigidol a ddatblygwyd yn bwrpasol i reoli achosion - gan ddarparu mynediad diogel at wybodaeth am achosion troseddol sy’n glyfrach ac yn fwy effeithlon – nawr yn weithredol yn llysoedd Bryste.

Mae’r Platfform Cyffredin nawr yn weithredol mewn mwy o safleoedd “mabwysiadu cynnar”, sef Llys y Goron Bryste a Llys Ynadon Bryste. Mae hyn yn cynrychioli cam mawr ymlaen ar gyfer y System Cyfiawnder Troseddol o ran gwneud y defnydd orau o dechnoleg ddigidol. Mae’r system eisoes wedi’i sefydlu’n dda yn Llys y Goron Derby ac yn Llysoedd Ynadon Derby a Chesterfield, ac mae’n darparu ffynhonnell wybodaeth hwylus ar gyfer y sawl sy’n cymryd rhan mewn achosion troseddol, o’r pwynt cychwynnol o unigolyn yn cael ei arestio ac yna ymlaen drwy weddill y broses.

Mae wedi’i ddylunio i gael ei ddefnyddio gan staff y llysoedd, Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS), gweithwyr proffesiynol yr amddiffyniad, yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder eraill. Mae’n darparu mynediad wedi’i deilwra at wybodaeth, fel bod defnyddwyr ond yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth briodol sy’n berthnasol iddyn nhw.

Unwaith y bydd wedi’i gyflwyno llawn ledled Cymru a Lloegr, bydd y Platfform Cyffredin yn cynyddu effeithlonrwydd ar draws y System Cyfiawnder Troseddol. Heddiw yw’r cam diweddaraf yn y broses o gyflwyno’r platfform i gyfres o lysoedd mabwysiadu cynnar ledled Cymru a Lloegr, ac mae cynnydd wedi bod er gwaethaf yr heriau a gyflwynir yng nghyd-destun unigryw y pandemig COVID-19.

Meddai Christine Murray, Cyfarwyddwr Cyflawni De Orllewin Lloegr:

Mae staff GLlTEM yn rhanbarth De Orllewin Lloegr, a chydweithwyr o asiantaethau partner ledled Bryste ac ardal ehangach Avon a Gwlad yr Haf wedi gweithio’n eithriadol o galed i baratoi’r safleoedd mabwysiadu cynnar ym Mryste, er gwaethaf yr heriau a gyflwynir gan y pandemig.

Mae’n gyflawniad gwych, ac mae’n adlewyrchu cryfder ein perthnasau lleol ac yn dangos gwerth gweithio ar y cyd. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan.

Mae’r Platfform Cyffredin yn lleihau’r angen i brosesu dogfennau papur ac mae’n gwella’r ffordd y mae achosion troseddol yn cael eu hasesu, eu rheoli a’u prosesu. Mae’n dileu’r angen i gopïo gwybodaeth o un system i’r llall, gan sicrhau bod gwybodaeth allweddol yn gywir ac mae’n lleihau dyblygu hefyd. Mae amrywiaeth o nodweddion yn sicrhau bod achosion yn cael eu symud yn eu blaenau yn effeithiol – er enghraifft, bydd y system yn anfon hysbysiadau i ddefnyddwyr yn awtomatig pan fydd dogfennau newydd am achos ar gael, neu pan fydd tasgau heb eu cwblhau.

Y llysoedd nesaf fydd yn lansio’r Platfform Cyffredin fydd nifer o safleoedd yn rhanbarthau Gogledd Ddwyrain Lloegr a De Ddwyrain Lloegr, sef:

  • Llys Ynadon Gogledd Tyneside, Llysoedd Ynadon Canol a De Ddwyrain Northumberland, a Llys y Goron Newcastle
  • Llys Ynadon Guildford/ Staines a Llys y Goron Guildford

Gwyliwch ein gweminar sy’n cyflwyno’r Platfform Cyffredin
Gwybodaeth am sut all gweithwyr proffesiynol yr amddiffyniad gofrestru i gael cyfrif
Canllawiau a deunyddiau dysgu i weithwyr proffesiynol yr amddiffyniad

Cyhoeddwyd ar 4 February 2021