Creu’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru
Heddiw [Dydd Mawrth 11 Hydref] cyhoeddodd y Llywodraeth aelodau’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a’r Gylch Gorchwyl. Cyhoeddodd Ysgrifennydd…

Heddiw [Dydd Mawrth 11 Hydref] cyhoeddodd y Llywodraeth aelodau’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a’r Gylch Gorchwyl.
Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan mai Cadeirydd y Comisiwn fydd Paul Silk, Clerc i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o 2001 i 2007 a chyn Glerc yn Nhŷ’r Cyffredin. Gydag ef ar y Comisiwn bydd pedwar aelod o bleidiau gwleidyddol, a enwebwyd gan bob un o’r pleidiau gwleidyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a dau aelod annibynnol.
Bydd aelodaeth y Comisiwn fel a ganlyn:
- Paul Silk, Cadeirydd
- Dyfrig John CBE (Cadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality)
- Yr Athro Noel Lloyd CBE (cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth)
- Yr Athro Nick Bourne (enwebai Ceidwadwyr Cymru)
- Sue Essex (enwebai Plaid Lafur Cymru)
- Rob Humphreys (enwebai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)
- Dr Eurfyl ap Gwilym (enwebai Plaid Cymru)
Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mrs Gillan: “Mae gan aelodau’r Comisiwn, dan arweiniad Paul Silk, rhyngddynt, brofiad ac arbenigedd helaeth ym maes cyllid a materion cyfansoddiadol yn ymwneud a Chymru. Wrth fwrw ymlaen ag ymrwymiad ein cytundeb Clymbleidiol i sefydlu’r Comisiwn hwn, mae’r Llywodraeth wedi cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a phob plaid yn y Cynulliad i gytuno ar ei Gylch Gorchwyl. Rwy’n disgwyl i’r Comisiwn ymgynghori’n eang ar ei gynigion, a chan adeiladu ar y consensws yr ydym wedi ceisio’i gyrraedd wrth ei ffurfio, i wneud argymhellion sy’n debygol o gael cefnogaeth eang.
“Yn dilyn y refferendwm yn mis Mawrth, mae gan Lywodraeth Cymru bwerau newydd dros y meysydd a ddatganolwyd. Nid yw ond yn iawn i ni felly edrych ar ffyrdd i wneud y Cynulliad yn fwy atebol a chyhoeddiad heddiw yw’r cam cyntaf tuag at fwrw ymlaen a hynny.”
Dywedodd Paul Silk, Cadeirydd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru: “Mae’n fraint fawr i gael fy ngwahodd i arwain y Comisiwn hwn a theimlaf ei bod yn anrhydedd ei dderbyn. Mae gennyf dim o gomisiynwyr sydd a’r fath ystod o brofiad a doniau, ac rwy’n hyderus y bydd yr wybodaeth hon yn amhrisiadwy wrth i’r Comisiwn ymgymryd a’i waith.
“Mae gan y Comisiwn gylch gwaith heriol a chymhleth ac edrychaf ymlaen at weithio’n adeiladol gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod y misoedd i ddod. Rwyf eisiau gwrando ac ymgysylltu a phobl ledled Cymru ar y materion pwysig hyn wrth i ni ddechrau ein gwaith ar y dasg gerbron.”
Dywedodd Danny Alexander, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys: “Mae creu’r Comisiwn hwn yn cyflawni ymrwymiad pwysig a wnaed gennym i bobl Cymru yn ein Cytundeb Clymbleidiol. Gyda’i aelodaeth sylweddol, dan gadeiryddiaeth Paul Silk, rwy’n gobeithio’n fawr y bydd modd i’r Comisiwn hwn greu consensws eang ynghylch y camau nesaf o ran datganoli pwerau i Gymru, ac yn benodol i roi i drethdalwyr Cymru fwy o lais ynghylch y modd y defnyddir eu harian.”
Nodiadau
Atodir copi o Gylch Gorchwyl y Comisiwn.
Mae cylch gorchwyl y Comisiwn yn adlewyrchu’r ffaith y bydd yn gwneud ei waith mewn dwy ran. Yn Rhan 1, bydd y Comisiwn yn edrych ar yr achos dros ddatganoli pwerau cyllidol i’r Cynulliad Cenedlaethol, gan argymell pecyn o bwerau cyllidol a fyddai’n gwella’i atebolrwydd. Yn Rhan 2 bydd y Comisiwn yn edrych ar bwerau’r Cynulliad ac yn argymell diwygiadau i wella’r trefniadau cyfansoddiadol presennol.
Bydd y Comisiwn yn gwneud pob ymdrech i adrodd i Lywodraeth y DU ar ei argymhellion yng nghyswllt Rhan 1 yn hydref 2012, ac ar Ran 2 yn ystod 2013.
Mae copi o Ddatganiad Ysgrifenedig y Gweinidog ynghlwm.