Rhyddhau gwybodaeth fasnachol a chorfforaethol ar-lein
Rhyddhau cofnodion perchnogaeth eiddo rhydd-ddaliol a phrydlesol yng Nghymru a Lloegr.
Heddiw mae’r Gofrestrfa Tir wedi rhyddhau dros 3.2 miliwn o gofnodion perchnogaeth tir ac eiddo rhydd-ddaliol a phrydlesol yng Nghymru a Lloegr, ar ôl iddi gael ei phleidleisio’n un o’r setiau data y mae mawr alw amdani ar Data.gov.
Mae Data Perchnogaeth Fasnachol a Chorfforaethol (C&COD) yn cynnig mynediad ar-lein i set ddata’r holl gategorïau perchnogaeth, ac eithrio unigolion preifat, cwmnïau tramor ac elusennau. Mae C&COD yn wasanaeth taladwy a chyfyngedig.
Dywedodd Andrew Trigg, Pennaeth y Rhaglen Ddata “gyda thros dair miliwn o deitlau ar gael, rydym yn credu y bydd y set ddata hon o fantais fawr i’n cwsmeriaid gan agor amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer gwelliannau data mewnol a gwasanaethau masnachol newydd. Gofynnodd cwsmeriaid am y set ddata hon a chafodd ei datblygu ar ôl misoedd o gydweithio.”
Y wybodaeth sydd ar gael
- disgrifiad o’r tir neu gyfeiriad yr eiddo gyda’r ardal weinyddol
- enw a chyfeiriad y perchennog/perchnogion cyfreithiol
- y dyddiad y cofrestrwyd y perchennog gyda’r Gofrestrfa Tir
- categori perchnogaeth
- rhifau teitl
- daliadaeth (rhydd-ddaliol/prydlesol)
Dywedodd Lynne Nicholson, Uwch Reolwr Cynnyrch,
Er mwyn sicrhau y bydd gan ein cwsmeriaid gyfle i wneud penderfyniad hyddysg am y data, rydym wedi cyflwyno menter newydd sy’n eu galluogi i adolygu a phrofi is-set o ddata am ddim cyn ei phrynu. Dim ond am chwe wythnos yn fewnol y gellir defnyddio’r data, ond rydym o’r farn y bydd hyn yn rhoi sicrwydd ychwanegol ac yn helpu’n cwsmeriaid i ddeall sut y gellir ei ddefnyddio orau.
Ymhlith costau C&COD mae costau cyflenwi data a dewisiadau prisio hyblyg ar gyfer sefydliadau o bob maint gyda thri phecyn cyflenwi gwahanol a breindaliadau defnydd chwarterol ar gyfer ailddefnydd masnachol. Daw’r data ar ffurf CSV gan alluogi integreiddiad hawdd â setiau data eraill os bydd angen.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm Datblygu Busnes:
Data Services Team
HM Land Registry
Rosebrae Court
Woodside Ferry Approach
Birkenhead
Merseyside
CH41 6DU
E-bost data.services@mail.landregistry.gov.uk
Ffurflen gysylltu https://help.landregis...
Telephone 0300 006 0478