Stori newyddion

Dewch i weithio yn DVLA

Beth fydd gyrfa yn DVLA yn ei gynnig i chi? Oriau gweithio hyblyg, cyfleusterau ardderchog ar y safle a chyfleoedd ffantastig i ddatblygu eich gyrfa yw dim ond rhai o’r buddion y gallwch eu disgwyl.

Fel asiantaeth weithredol yr Adran Drafnidiaeth, rôl DVLA yw sicrhau bod y gyrwyr a’r cerbydau iawn wedi’u trethu ac ar ffyrdd y DU mor ddiogel a syml â phosibl. Drwy ymuno â DVLA gallwch wneud gwahaniaeth positif i’n cyhoedd sy’n gyrru mewn amgylchedd dynamig a chyffrous.

Rydym yn gwobrwyo ein gweithwyr

Fel cyflogwr o tua 6,000 staff, rydym yn deall bod cynnig manteision a buddion i weithwyr yn bwysig i’w cadw wedi’u hysgogi a’u hysbrydoli i wneud gwaith arbennig bob dydd. Ynghyd â chyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol sy’n cynyddu’n flynyddol (i fyny at 30 diwrnod ar gyfartaledd), mae gweithwyr yn gallu dewis o ystod ardderchog o gynlluniau pensiwn ac yn cael mynediad at gyfleusterau ardderchog fel campfa, dau gaffi a gwasanaethau gofal plant. Mae hyd yn oed manteision na fyddech yn eu disgwyl, fel profion llygaid am ddim a sbectol (dibynnu ar eich rôl) a’r opsiwn i gael blaenswm cyflog i brynu beic i deithio i’r gwaith.

Rydym yn cynnig cefnogaeth

Rydym yn cefnogi ein gweithwyr mewn sawl ffordd wahanol, p’un ai a’u bod yn dymuno dysgu sgiliau newydd neu angen cymorth gyda materion iechyd a lles. Rydym hefyd yn falch i gael gweithlu amrywiol gyda rhwydweithiau cefnogaeth wedi’u gosod ar gyfer cyd-weithwyr o bob cefndir.

Gyrfa sydd at ddant pawb

Gall ymuno â DVLA fod yn newid gyrfa. Fel rhan o’r Gwasanaeth Sifil, gall ein staff gael mynediad at amrywiaeth eang o raglenni hyfforddiant a chynlluniau datblygu ar draws ystod eang o ddisgyblaethau. O weinyddiaeth i gyllid, TG i gyfathrebu, mae cyfle gyrfa cyffrous yn DVLA i bawb.

I gael gwybod mwy am weithio yn DVLA a’n swyddi gwag, edrych yma.

Gweld sut beth yw gweithio yn DVLA drwy wylio ein fideo

Working at DVLA

Cyhoeddwyd ar 14 August 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 August 2018 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.