Datganiad i'r wasg

Cyrnol James Phillips wedi penodi fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru gyntaf

Mae'r Swyddfa Materion Cyn-filwyr a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi penodi Cyrnol James Phillips MBA ar y cyd fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru.

Colonel James Phillips and Welsh Secretary Simon Hart

Colonel James Phillips, The Veterans' Commissioner for Wales, and Simon Hart, Secretary of State for Wales

Mae’r Swyddfa Materion Cyn-filwyr a Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi penodi Cyrnol James Phillips MBA ar y cyd fel Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart ei fod wrth ei fodd bod James Phillips wedi’i benodi i’r rôl, a fydd yn adeiladu ar lwyddiant rolau cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon a bydd yn golygu bod gan bob gwlad ddatganoledig Gomisiynydd Cyn-filwyr.

Bydd James yn gweithio i wella’r gefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru, yn ogystal â chraffu a chynghori ar bolisi’r llywodraeth ar gyfer cyn-filwyr.

Bydd sefydlu Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn sicrhau bod anghenion a chyfraniadau penodol cyn-filwyr yng Nghymru yn cael eu cynrychioli.

Bydd Comisiynydd Cyn-filwyr yn helpu i gyfeirio cyn-filwyr a’u teuluoedd at gymorth lleol sydd ar gael mewn meysydd megis darpariaeth gofal iechyd ac iechyd meddwl, tai a chyflogaeth, yn ogystal â chynorthwyo elusennau ac eirioli dros y gymuned gyn-filwyr yng Nghymru.

Mae’r penodiad wedi cael ei gyhoeddi wrth i Gymru ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac yn ystod Wythnos Cymru yn Llundain, lle mae Llywodraeth y DU yn cynnal nifer o ddigwyddiadau.

Mae James newydd gwblhau trosglwyddiad ei hun i fywyd sifil ar ôl 33 mlynedd yn y Fyddin. Mae wedi gwasanaethu yn yr Almaen, Cyprus, Yr Iseldiroedd, Gogledd Iwerddon, y Balcanau, Afghanistan ac Iraq. Mae wedi gorchymyn milwyr, morwyr a phersonél awyr ac wedi gweithio yn NATO, MOD, Pencadlys y Cyd a’r Fyddin. Mae’n briod ac yn byw yn Sir Benfro gyda 4 o blant a Springer Spaniel Cymreig hynod afreolus.

Dywedodd Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru, Cyrnol James Phillips:

Fel cyn-filwr o fwy na deng mlynedd ar hugain, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael fy mhenodi’n Gomisiynydd Cyn-filwyr cyntaf Cymru. Mae’r gymuned gyn-luoedd yn rhan bwysig o gymdeithas Cymru ac mae traddodiad hir o wasanaeth ac aberth. Byddaf yn defnyddio fy mhrofiad a’m sefyllfa i wella bywydau pob cyn-filwr a’u teuluoedd.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae gan y Lluoedd Arfog draddodiad hir a phwysig yng Nghymru ac rydym yn eithriadol o falch o’n cyn-filwyr yng Nghymru. Mae ein cyn-filwyr a’u teuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth, cefnogaeth a pharch drwy gydol eu gwasanaeth a thu hwnt.

Bydd penodi Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn cynyddu ac yn cydlynu’r cymorth sydd ar gael ac yn tynnu sylw at ymrwymiad Llywodraeth y DU i les y dynion a’r menywod sy’n gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog.

Rwy’n falch iawn y gallem wneud y cyhoeddiad hynod bwysig hwn ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn Steve Barclay:

Rydym am sicrhau bod gan gyn-filwyr ar draws pob cwr o’r Deyrnas Unedig fynediad at gymorth o ansawdd uchel.

Mae penodi Cyrnol Phillips i’r rôl hon bellach yn golygu bod gan bob rhan o’r DU gomisiynwyr i hyrwyddo cyn-filwyr ar draws cymdeithas a dwyn y sector cyhoeddus i gyfrif.

Dywedodd Leo Docherty, y Gweinidog Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwyr:

Mae’r penodiad hwn yn cyflawni rhan allweddol o’n Cynllun Gweithredu Strategaeth Cyn-filwyr ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chyrnol Phillips.

Rwy’n gwybod y byddant yn gweithio’n galed i gynrychioli cyn-filwyr yng Nghymru - gan hybu cefnogaeth iddynt ledled y wlad, boed hynny’n dai, cyflogaeth neu ofal iechyd.

Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru:

Mae Cymru’n darparu ystod eang o gymorth i gyn-filwyr – o Gyn-filwyr GIG Cymru i’n Swyddogion Cyswllt Lluoedd Arfog – ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid i gefnogi pawb sydd wedi gwasanaethu.

Mae Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn benodiad Llywodraeth y DU. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyrnol James Phillips fel rhan o’n hymrwymiad i gyn-filwyr ledled Cymru.

Bydd Cyrnol Phillips yn adrodd yn uniongyrchol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn Steve Barclay a’r Gweinidog Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwyr Leo Docherty.

Ym mis Ionawr lansiodd y Swyddfa Materion Cyn-filwyr Gynllun Gweithredu Strategaeth Cyn-filwyr y llywodraeth. Mae’r ymrwymiadau yn y cynllun sy’n ymwneud â Chymru yn cynnwys:

  • Cynyddu data a dealltwriaeth o’r garfan cyn-filwyr yng Nghymru, drwy’r cwestiwn cyntaf i gyn-filwyr yn y Cyfrifiad y llynedd yng Nghymru a Lloegr. Bydd hyn yn ein galluogi i gyhoeddi mewnwelediadau a ddatblygwyd o ddata’r cyfrifiad ar draws ystod o bynciau sy’n effeithio ar gyn-filwyr a’u teuluoedd, o iechyd a lles i dai a chyflogaeth.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwasanaeth gofal iechyd meddwl arbenigol Cyn-filwyr GIG Cymru a Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr Cymru (VTN) ar gyfer cyn-filwyr ag anafiadau corfforol cymhleth.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog (AFLOs) a phartneriaid gan gynnwys cydgysylltwyr atal hunanladdiad a hunan-niweidio rhanbarthol i hyrwyddo hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ac yn cyhoeddi Cyfamod newydd y Lluoedd Arfog, Blaenoriaeth Gofal Iechyd i Gyn-filwyr, yn amodol ar ddatblygiadau yn y DU gan gynnwys Bil y Lluoedd Arfog.
Cyhoeddwyd ar 1 March 2022