Taliadau tywydd oer i’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, meddai Cheryl Gillan
Heddiw, cyhoeddodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd pawb cymwys yng Nghymru, gan gynnwys mwy na 150,000 o’r pensiynwyr mwyaf…
Heddiw, cyhoeddodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd pawb cymwys yng Nghymru, gan gynnwys mwy na 150,000 o’r pensiynwyr mwyaf agored i niwed yng Nghymru, ymhlith y rheini a fydd yn cael £25 o Daliad Tywydd Oer dros y 10 diwrnod nesaf.
Bydd bron i £4 miliwn o Daliadau Tywydd Oer yn cael eu talu i oddeutu 150,000 o bobl sy’n cael credyd pensiwn yng Nghymru. Rhoddir taliadau’n awtomatig hefyd i oedolion a phlant anabl a theuluoedd a chanddynt blant dan bump oed sy’n cael budd-dal sy’n seiliedig ar incwm.
Wrth i’r tymheredd rhewllyd barhau yng Nghymru, dywedodd Mrs Gillan: “Mae Taliadau Tywydd Oer yn rhoi sicrwydd hanfodol i’r cartrefi mwyaf agored i niwed ledled Cymru er mwyn iddynt allu fforddio codi’r gwres yn ystod y tywydd oer.
“Dydyn ni ddim am weld pobl yn poeni am godi’r gwres wrth i’r tymheredd blymio, fel y mae wedi’i wneud dros y dyddiau diwethaf. Dyna pam y gwnaeth y Llywodraeth glymblaid weithredu ym mis Hydref i gynyddu Taliadau Tywydd Oer yn barhaol i £25 o’r gyfradd a gyllidebwyd o £8.50.
Yn y cyfamser, apeliodd Mrs Gillan ar gymdogion, ffrindiau a theuluoedd i gadw llygad hefyd ar berthnasau a chymdogion oedrannus ledled Cymru yn ystod y tywydd oer.
Dywedodd: “Mae pobl hŷn yn arbennig o agored i niwed yn ystod eira a thywydd oer, felly byddwch yn gymydog neu’n ffrind da ac ewch i’w gweld yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cadw’n iawn ac yn ddiogel a bod ganddynt bopeth sydd eu hangen arnynt yn ystod y cyfnod oer.”
Ledled Prydain, bydd oddeutu 4.1 miliwn o bobl, dros 97% o’r rheini sy’n gymwys, yn cael y Taliadau, ac amcangyfrifir bod cyfanswm y gwariant yn £105 miliwn hyd yn hyn y gaeaf hwn. Caiff y taliadau eu talu’n awtomatig ac yn uniongyrchol i gyfrifon banc y rheini sy’n gymwys.
Gwneir Taliadau Tywydd Oer am bob cyfnod saith niwrnod o dywydd oer iawn - os bydd cofnod neu ragolwg tymheredd cyfartalog yn sero gradd canradd neu’n is dros saith niwrnod yn olynol.
Bydd y rhan fwyaf o bensiynwyr hefyd yn cael Taliadau Tanwydd Gaeaf. Bydd y rhain yn parhau i gael eu talu ar y gyfradd uwch o £250 i gartrefi sy’n cynnwys rhywun hyd at 79 oed a £400 i gartrefi sy’n cynnwys rhywun 80 oed neu hŷn y gaeaf hwn. Mae Taliadau Tanwydd Gaeaf wrthi’n cael eu dosbarthu.