Gweinidog Swyddfa Cymru’n Croesawu’r Gronfa Adfywio Trefi Arfordirol
Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, yn annog trefi glan mor poblogaidd Cymru i fanteisio ar y cyfle i adfywio eu hamgylchedd a gwneud…
Mae Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones, yn annog trefi glan mor poblogaidd Cymru i fanteisio ar y cyfle i adfywio eu hamgylchedd a gwneud cais am eu cyfran hwy o’r gronfa gwerth £24m sydd wedi’i lansio heddiw gan yr Ysgrifennydd Cymunedau, Eric Pickles.
Mae’r Gronfa Cymunedau Arfordirol wedi cael ei chreu er mwyn darparu cyllid i gymunedau arfordirol ledled y DU sy’n cael trafferthion, i gefnogi cyfleoedd newydd sy’n gallu gwneud i’w trefi ffynnu. Gwahoddir amrywiaeth o sefydliadau o bob cwr o Gymru, o fusnesau i fentrau cymdeithasol, i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau a fydd yn helpu trefi arfordirol i arallgyfeirio o’u darpariaeth draddodiadol, gyda’r nod yn y pen draw o adfywio eu heconomi leol.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones: “Rydym ni’n cydnabod y rhan bwysig y mae twristiaeth arfordirol yn ei chwarae yng Nghymru, a’r cyfraniad pwysig mae’n ei wneud at ein heconomi ni. Yn wir, croesawodd Cymru 9.6 miliwn o ymwelwyr dros nos yn 2010, gan gyfrannu bron i £1.8 biliwn at economi Cymru.
“Rydym ni eisiau gweld cymaint o gymunedau arfordirol ag y bo modd, yn rhai mawr a bach, yn cyflwyno ceisiadau o safon am gyllid a fydd yn cefnogi prosiectau blaengar, llawn dychymyg sy’n hybu swyddi a thwf ac yn helpu i greu economi leol gryfach a mwy amrywiol.”
Gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl derbyn grant sydd rhwng £50,000 a £2 miliwn i gefnogi prosiectau sy’n amrywio o greu gofod gwaith newydd i gefnogi a sicrhau twf yn yr economi leol a chefnogi gwelliannau trafnidiaeth cynaliadwy ar raddfa fechan. Cyllidir y gronfa gan Lywodraeth y DU gyda refeniw o asedau morol Stad y Goron. Gweinyddir y cyllid gan ‘Gronfa Fawr’ y Gronfa Loteri Fawr ac fe’i neilltuir i Gymru’n seiliedig ar y refeniw a gynhyrchir gan yr asedau morol hyn.
Nodiadau i olygyddion
• Cyllidir y gronfa gan Lywodraeth y DU gyda refeniw o asedau morol Stad y Goron. Bydd y gronfa ar gyfer y DU i gyd a neilltuir y cyllid i Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar sail y refeniw a gynhyrchir gan yr asedau morol hyn.
• Heddiw, cyhoeddwyd prosbectws yn manylu ar gymhwysedd, awgrymiadau ynghylch sut i ddefnyddio’r cyllid a manylion am sut i ymgeisio: www.communities.gov.uk/publications/regeneration/coastalfundprospectus. Derbynnir ceisiadau ym mis Ebrill.