Stori newyddion

‘Eglurder a sefydlogrwydd i ddyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg’, meddai Ysgrifennydd Cymru ar S4C

Heddiw [25ain Hydref 2011] , ymatebodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, i gyhoeddiad gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [25ain Hydref 2011] , ymatebodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, i gyhoeddiad gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Ymddiriedolaeth y BBC ac S4C ynghylch y trefniadau ar gyfer cyllido a rheoli S4C yn y dyfodol hyd at 2017, a’r trefniadau atebolrwydd:

Meddai Mrs Gillan: “Rwy’n croesawu’r datganiad ar y cyd heddiw gan y BBC ac S4C, sy’n diogelu ei dyfodol. Bydd hyn yn arwain at eglurder a sefydlogrwydd y mae eu gwir angen ar gyfer dyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg. Mae S4C yn elfen bwysig o’r byd darlledu ym Mhrydain, gan adlewyrchu diwylliant ac iaith Cymru. Rydym ni wedi pwysleisio dro ar ol tro ei bod yn bwysig i S4C gadw ei hannibyniaeth weithredol a golygyddol o dan y trefniadau newydd ac rwy’n falch bod cytundeb yn ei le yn awr.”

Cyhoeddwyd ar 25 October 2011