“Eglurder ac atebolrwydd” wrth galon Bil Cymru, meddai Alun Cairns
“Eglurder ac atebolrwydd” yw dwy egwyddor arweiniol Bil newydd Cymru, meddai Alun Cairns wrth Aelodau Seneddol wrth i Dŷ’r Cyffredin ddechrau ar ail ddarlleniad y ddeddfwriaeth.

“Eglurder ac atebolrwydd” yw dwy egwyddor arweiniol Bil newydd Cymru, meddai Alun Cairns wrth Aelodau Seneddol wrth i Dŷ’r Cyffredin ddechrau ar ail ddarlleniad y ddeddfwriaeth.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod y model pwerau cadw o ddatganoli yn nodi’n glir pa bwerau sydd wedi’u cadw a pha bwerau sydd wedi’u datganoli.
“Bydd yn rhoi terfyn ar y dadlau rhwng Bae Caerdydd a San Steffan ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth, ac yn galluogi Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â’r gwaith o wella’r economi, sicrhau swyddi a gwella gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi’u datganoli,” meddai Mr Cairns.
Roedd cyflwyno cyfraddau treth incwm yng Nghymru yn sicrhau bod atebolrwydd wrth galon y Bil, meddai’r Ysgrifennydd Gwladol yn Nhŷ’r Cyffredin.
“Bydd yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn atebol i bobl Cymru am godi mwy o arian nag y mae’n ei wario.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau setliad datganoli sy’n gliriach, yn decach ac yn gadarnach ar gyfer Cymru, a dyna’n union beth mae’r Bil hwn yn ei wneud.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod y Bil yn rhoi pwerau i’r Cynulliad dros feysydd, gan gynnwys
- Cyfyngiadau cyflymder
- Rheoleiddio tacsis a bysiau • Porthladdoedd • Ffracio • Caniatâd cynllunio ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau ynni • Etholiadau a phrosesau’r Cynulliad
Cafodd Aelodau Seneddol wybod fod y Bil yn ymgorffori’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru fel rhannau parhaol o gyd-destun cyfansoddiadol y DU am y tro cyntaf.
Nid oedd yn rhaid i’r Cynulliad ddilyn prawf anghenraid wrth newid cyfraith trosedd a sifil at ddibenion datganoledig, meddai Mr Cairns.
Hefyd, dywedodd fod y ddeddfwriaeth yn cydnabod bod corff o gyfraith Gymreig a wnaed gan y Cynulliad a gweinidogion Cymru sy’n ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr, a hynny am y tro cyntaf. Roedd gweithgor nawr yn edrych ar y trefniadau penodol ar gyfer cyfraith Gymreig, ychwanegodd yr Ysgrifennydd Gwladol.
Roedd Bil Cymru’n cynnwys trosglwyddo pwerau i’r Cynulliad ac i Lywodraeth Cymru, a oedd yn gam hanesyddol.