Stori newyddion

Hawliwch eich eiddo i reoli eich prisiad

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi hawlio eich eiddo yn eich cyfrif prisio ardrethi busnes.

Mae prisiadau eiddo masnachol yn newid yn ddiweddarach eleni. 

Os ydych chi eisiau gweld manylion eich prisiad newydd, bydd angen i chi: 

  • gael cyfrif prisio ardrethi busnes 
  • cysylltu eich eiddo fel ei fod yn ymddangos yn eich cyfrif 

Ar ôl i chi gysylltu eich eiddo, gallwch ddefnyddio eich cyfrif prisio ardrethi busnes i: 

  • wirio’r manylion sydd gennym 
  • rhoi gwybod i ni os oes rhywbeth o’i le 
  • gweld sut y cyfrifwyd prisiad eich eiddo 

Gallwch greu cyfrif prisio ardrethi busnes heddiw er mwyn hawlio eich eiddo. 

Bydd angen i chi ddarparu prawf o’ch perthynas â’r eiddo. Gallai hyn fod yn gopi o’r bil ardrethi busnes neu’r bil cyfleustodau. 

Mae rhywfaint o wybodaeth prisio yn gyfrinachol, felly mae angen i ni wybod bod gennych hawl i’w gweld. 

Gall gymryd hyd at 15 diwrnod gwaith i’ch hawliad eiddo gael ei gymeradwyo. 

Gwyliwch ein fideo ar sut i hawlio eich eiddo ar gyfer ardrethi busnes. Mae gennym ganllawiau hefyd ar GOV.UK ar ychwanegu eich eiddo at eich cyfrif

Mae ardrethi busnes yn seiliedig ar ‘werth ardrethol’ eich eiddo. 

Bob tair blynedd, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn diweddaru gwerthoedd ardrethol pob eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Gelwir hyn yn ‘ailbrisiad’. 

Mae’r ailbrisiad nesaf wedi’i drefnu i ddod i rym ar 1 Ebrill 2026, yn seiliedig ar werth rhent eiddo ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2024. 

Gallwch hefyd ddefnyddio’ch cyfrif prisio ardrethi busnes i ddweud wrth y VOA os ydych chi’n credu bod eich prisiad eiddo presennol yn anghywir. Ond rhaid i chi wneud hyn erbyn 31 Mawrth 2026.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Tachwedd 2025