Stori newyddion

Cheryl Gillan yn dymuno’r gorau i dîm Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ysgrifennu at hyfforddwr Rygbi Cymru, Warren Gatland, i ddymuno’r gorau iddo ef a’i dim yng Nghwpan…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi ysgrifennu at hyfforddwr Rygbi Cymru, Warren Gatland, i ddymuno’r gorau iddo ef a’i dim yng Nghwpan y Byd, sy’n dechrau’r penwythnos hwn.

Dywedodd Mrs Gillan y bydd cefnogwyr drwy Gymru ben baladr yn cefnogi’r tim cenedlaethol i roi perfformiad cadarn yn y twrnamaint.

Mae gem agoriadol y twrnamaint yn cael ei chwarae rhwng Seland Newydd a Thonga yn Eden Park, Auckland ar y 9fed o Fedi. Mae carfan Cymru yn chwarae eu gem gyntaf yn Wellington ar yr 11eg o Fedi yn erbyn De Affrica.

Meddai Mrs Gillan: “Wrth i dim rygbi Cymru barhau a’u paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd, hoffwn ddymuno’r gorau i Warren Gatland a’i garfan yn y twrnamaint. Bydd Cymru gyfan yn annog y tim ymlaen gan obeithio gweld mwy o’r gogoniant ar y cae y mae tim Cymru yn enwog amdano. Rwyf i’n bendant yn edrych ymlaen i wylio’r gemau a dilyn eu hynt yn ystod y twrnamaint. Mae gan y tim y ddawn i wneud argraff, a gyda digon o dan y ddraig, rwy’n sicr y byddant unwaith eto yn gwneud Cymru’n falch iawn.”

Cyhoeddwyd ar 8 September 2011