Cheryl Gillan yn croesawu canlyniad ‘Ie’ y refferendwm a fydd yn arwain at fwy o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cynulliad Cymru
Bydd canlyniad refferendwm Cymru yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, medd Cheryl Gillan,…
Bydd canlyniad refferendwm Cymru yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, medd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Wrth groesawu’r canlyniad ‘Ie’ dywedodd Mrs Gillan: “Yn bwysig, mae pobl Cymru wedi cael dweud eu dweud. Bydd y bleidlais o blaid mwy o bwerau deddfu yn caniatau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru fwrw ymlaen a’r gwaith o gyflenwi gwell gwasanaethau i’r cyhoedd a gwella ansawdd bywyd i bobl Cymru yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt.
“Mae’r canlyniad yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i Fae Caerdydd gan ei fod yn galluogi’r Cynulliad i ddeddfu ar ei ben ei hun yn yr holl feysydd sydd yn y setliad datganoli gwreiddiol.
Mae’r Llywodraeth yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud i’r trefniadau deddfwriaethol hyn weithio’n effeithiol.
Dywedodd Mrs Gillan ei bod yn falch bod y Llywodraeth glymblaid wedi cyflawni’r ymrwymiad i gynnal refferendwm - yn unol a chais Aelodau’r Cynulliad - ar fwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad. Roedd y refferendwm yn rhoi’r dewis i bobl Cymru ynghylch dyfodol datganoli yng Nghymru.
Dywedodd: “Y Cynulliad a Llywodraeth Cynulliad Cymru sydd i benderfynu pryd y daw’r pwerau hyn i rym. Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog eisoes wedi dweud ei fod wedi bwriadu cyn y refferendwm gofyn i’r Cynulliad gymeradwyo Gorchymyn cyn pen yr wythnos neu ddwy nesaf a fyddai’n golygu bod y pwerau newydd yn dod i rym cyn gynted ag sy’n bosibl.
“Mae pwerau llawn y Cynulliad wedi’u cynnwys yn Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’n golygu y bydd y Cynulliad yn gallu deddfu ar bynciau yn yr 20 maes a ddynodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006.
“Bydd yr holl feysydd nad oeddent wedi cael eu datganoli yn aros heb eu datganoli, a Llywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig sy’n dal yn gyfrifol amdanynt. Mae’r rhain yn cynnwys materion y mae’n well delio a nhw ar y lefel genedlaethol, lefel y DU, ac maent yn cynnwys materion ariannol ac economaidd, a pholisi ariannol, amddiffyn a materion tramor, plismona, cyfiawnder troseddol a sifil, nawdd cymdeithasol, cyflogaeth ac ynni.”
Ychwanegodd Mrs Gillan: “Nid yw’r canlyniad yn golygu dim cyllid ychwanegol i’r Cynulliad, ond rwyf yn falch o nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dweud y bydd yn gallu deddfu’n fwy effeithlon ac yn rhatach yn y meysydd penodol a ddatganolwyd yn y dyfodol.”