Cheryl Gillan yn falch o glywed bod Brigâd 160 yn aros ac y bydd presenoldeb yn safle Sain Tathan yn parhau
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd Brigad 160 (Cymru) yn aros yn Aberhonddu, ac y bydd presenoldeb…
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd Brigad 160 (Cymru) yn aros yn Aberhonddu, ac y bydd presenoldeb yn safle Sain Tathan yn parhau.
Gwnaed y cyhoeddiad gan Liam Fox, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, wrth i’r Llywodraeth aildrefnu’r Lluoedd Arfog. Croesawodd Mrs Gillan y cyhoeddiad yn ystod ymweliad a stondin Brigad 160 yn Sioe Frenhinol Cymru.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae hyn yn newyddion gwych i Gymru. Gyda’i phencadlys yn Aberhonddu, mae gan Frigad 160 hanes clodwiw yng Nghymru, ac roedd yn bleser gennyf allu ymweld a’i stondin ar faes Sioe Frenhinol Cymru i rannu’r newyddion da. Bydd gennym bresenoldeb yn Sain Tathan o hyd hefyd, a byddwn yn achub ar y cyfle i symud rhagor o unedau’r Lluoedd Arfog yno er mwyn sicrhau bod y safle’n cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol bosibl.** **Mae’r cyhoeddiadau a wnaed heddiw yn enghraifft glir o’n hymrwymiad i amddiffyn yng Nghymru.
“Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn y bydd y gyllideb ar gyfer offer amddiffyn yn cynyddu 1 y cant o un flwyddyn i’r llall mewn termau real o 2015 ymlaen. Bydd y mesurau yr ydym wedi’u rhoi ar waith yn helpu i sicrhau bod ein Lluoedd Arfog yn parhau’n rym aruthrol ar y llwyfan rhyngwladol yn y dyfodol.”