Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn croesawu’r Prif Weinidog yn ôl i Gymru

Heddiw (17 Mai), roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn falch o groesawu David Cameron yn ol i Gymru ar ei ymweliad swyddogol cyntaf…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (17 Mai), roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn falch o groesawu David Cameron yn ol i Gymru ar ei ymweliad swyddogol cyntaf fel Prif Weinidog.Roedd Mr Gillan a David Jones, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, yn aros am y Prif Weinidog wrth i’w dren gyrraedd Gorsaf Caerdydd Canolog. Ymunodd Ysgrifennydd Cymru a Mr Cameron ar daith o amgylch GE Aviation, Nantgarw, i gyfarfod a’r gweithwyr a’r prentisiaid yn un o’r cyfleusterau cynnal a chadw injans awyrennau mwyaf yn y byd.

Yna, teithiodd y Prif Weinidog i Fae Caerdydd lle’r oedd y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas, yn barod i’w groesawu i’r Senedd.  Ar ol gweld Siambr Drafod y Cynulliad Cenedlaethol, cyfarfu’r Prif Weinidog ag Arweinydd y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad, Nick Bourne, ac Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams.  

Ar ol annerch y staff yn y Senedd, cynhaliodd y Prif Weinidog ei gyfarfod cyntaf a Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan: “A minnau’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru, roeddwn yn falch dros ben o gael croesawu’r Prif Weinidog i Gaerdydd heddiw. 

“Mae ymweliad heddiw yn dangos ymrwymiad clir ein Llywodraeth o’r cychwyn i sefydlu perthynas waith gadarn a chynhyrchiol gyda’r Cynulliad Cenedlaethol yma ym Mae Caerdydd a chyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

“Edrychaf ymlaen at groesawu’r Prif Weinidog ac aelodau eraill o’n Cabinet yn ol i Gymru ar sawl achlysur dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf wrth i bawb ohonom ymdrechu i gydweithio er mwyn sicrhau dyfodol mwy hyderus, mwy disglair a mwy llewyrchus i Gymru a gweddill y DU.”

Cyhoeddwyd ar 17 May 2010