Cheryl Gillan yn croesawu gostyngiad parhaus yng nghyfradd yr anweithgarwch economaidd yng Nghymru
Mae Cheryl Gillan, yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi rhoi croeso petrus i’r Ystadegau diweddaraf ar y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos…
Mae Cheryl Gillan, yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi rhoi croeso petrus i’r Ystadegau diweddaraf ar y Farchnad Lafur a gyhoeddwyd heddiw, sy’n dangos bod lefel a chyfradd yr anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn gostwng yn barhaus.
Roedd lefel yr anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn 490,000, gostyngiad o 7,000 ers y tri mis blaenorol, tra bo cyfradd yr anweithgarwch economaidd wedi disgyn 0.4 y cant ers y chwarter diwethaf i 25.9 y cant.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae gostyngiad parhaus wedi bod yn yr anweithgarwch economaidd yng Nghymru ers sawl mis ac mae hyn yn galonogol. Er bod sefyllfa diweithdra yng Nghymru’n dal yn ansefydlog, gwelwyd gostyngiad hefyd yn y nifer sy’n hawlio budd-dal diweithdra yng Nghymru ym mis Chwefror wrth i fwy o bobl roi’r gorau i dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith na nifer y bobl a oedd yn ei dderbyn.
“Mae’r rhain i gyd yn arwyddion da, ond mae’n rhaid i ni ddal ati i gydweithio er mwyn datrys y problemau a adawyd i ni gan y Llywodraeth flaenorol. Mae anweithgarwch economaidd yng Nghymru’n dal yn uwch nag un man arall yn y DU, ac eithrio Gogledd Iwerddon a Gogledd Ddwyrain Lloegr, a’r gyfradd gyflogaeth yw’r drydedd isaf yn y DU o hyd.”
67.5 y cant oedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru, 0.4 y cant o gynnydd ers y chwarter diwethaf, ac roedd y gyfradd ddiweithdra yn 8.7 y cant, cynnydd o 0.1 ers y chwarter diwethaf.
Yr wythnos hon, cyfarfu’r Ysgrifennydd Gwladol a Linda Badman, Cyfarwyddwr Canolfan Byd Gwaith Cymru i drafod sut roedd Canolfan Byd Gwaith yn helpu i gefnogi pobl i roi’r gorau i dderbyn budd-daliadau ac i fynd yn ol i weithio neu gael hyfforddiant yng Nghymru.
Dywedodd Mrs Gillan: “Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth a’r Adran Gwaith a Phensiynau i gyfleu’r neges bod gwaith yn talu bob amser, a chyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddenu rhagor o fusnesau i Gymru i gynyddu nifer y cyfleoedd sydd ar gael ar gyfer ein gweithlu parod ac abl.”