Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn sicrhau dyfodol i Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd

Heddiw (12 Hydref), mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi sicrhau dyfodol i’r Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd yn dilyn trafodaethau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (12 Hydref), mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi sicrhau dyfodol i’r Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd yn dilyn trafodaethau ag un o Weinidogion y Swyddfa Gartref a phennaeth y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasbortau (IPS).

Cyfarfu Mrs Gillan a Sarah Rapson, prif weithredwr IPS, a Damian Green, y Gweinidog dros Fewnfudo, i drafod cynlluniau i gau’r ganolfan prosesu pasbortau yng Nghasnewydd yn 2012.

Yn dilyn y cyfarfod yn Nhŷ Gwydyr, Llundain, dywedodd Mrs Gillan: “Mewn cyfarfod anodd ond cynhyrchiol, rwyf wedi cael ymrwymiad gan yr IPS y bydd swyddfa newydd, a fydd yn delio a chwsmeriaid wyneb yn wyneb, yn cael ei hagor yng Nghasnewydd, gan ddiogelu hyd at 45 o swyddi a gwasanaethu hyd at 47,000 o bobl y flwyddyn.

“Yn y cyfarfod heddiw, mae’r IPS hefyd wedi fy sicrhau y bydd yr Asiantaeth yn gwneud popeth y gall i osgoi’r posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol petai swyddfa Casnewydd yn cau. Bydd y rheolwyr yn rhoi gwybod i mi am y diweddaraf drwy gydol y cyfnod 90 diwrnod o ymgynghori, a fydd yn dechrau’r wythnos nesaf.”

Dywedodd Mrs Gillan y byddai cwsmeriaid yng Nghymru yn dal i allu defnyddio gwasanaeth llawn sy’n eu galluogi i wneud cais am basbort dros y cownter, gan fod yr IPS wedi cytuno y bydd y gwasanaeth yn aros yng Nghasnewydd.

Dywedodd: “Mae’n golygu y bydd pobl Cymru yn dal i allu defnyddio Swyddfa Basbort yng Nghasnewydd ac yn cael gwasanaeth o’r un lefel ag y maent yn ei chael ar hyn o bryd, gan gynnwys gwasanaeth prosesu pasbortau’r un diwrnod.  Mae hyn yn cyd-fynd yn llwyr a’r gwasanaeth sydd ar gael yn yr Alban.

**Nodiadau **

  • Bydd y swyddfa newydd yng Nghasnewydd yn cynnig gwasanaeth gwneud cais wyneb yn wyneb a gwasanaeth danfon i gwsmeriaid ag anghenion brys, ac yn cynnal cyfweliadau dilysu, yn ymdrin ag ymholiadau, ac yn datrys materion.** **
  • **Mae’r IPS **yn cynnig swyddfa sy’n delio a chwsmeriaid wyneb yn wyneb yn Glasgow yn sgil cau’r ganolfan prosesu pasbortau yn Glasgow ddwy flynedd yn ol.
Cyhoeddwyd ar 12 October 2010