Stori newyddion

Cheryl Gillan yn dweud y bydd diwygio lles yn helpu i godi llawer o deuluoedd tlotaf Cymru allan o dlodi a’r diwylliant budd-daliadau

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r Mesur Diwygio Lles fel y newid mwyaf i’r system lles mewn 60 mlynedd a dywedodd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi croesawu’r Mesur Diwygio Lles fel y newid mwyaf i’r system lles mewn 60 mlynedd a dywedodd y byddai hyn yn helpu i sicrhau bod miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn well eu byd ac y byddai’n codi llawer o deuluoedd tlotaf Cymru allan o dlodi.

Wrth wraidd y Mesur, a lansiwyd heddiw gan y Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd dros Waith a Phensiynau Iain Duncan Smith, bydd cyflwyno Credyd Cynhwysol er mwyn symleiddio’r system fudd-daliadau sydd wedi mynd yn anodd iawn ei rheoli. Bydd hefyd yn sicrhau bod gwaith yn talu ffordd, yn helpu i ryddhau miliynau o bobl o drallod dibyniaeth ar les, ac yn torri cylchoedd o ddiweithdra sy’n ymestyn yn ol dros genedlaethau.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae gormod lawer o deuluoedd yng Nghymru wedi’u dal ym magl dibyniaeth ar fudd-daliadau. Mae hyn yn niweidiol i’r rheini sy’n derbyn y budd-daliadau, i gymunedau yng Nghymru ac i Gymru’n gyffredinol. Mewn rhai ardaloedd, mae’r bedwaredd genhedlaeth mewn teuluoedd bellach wedi’u dal mewn diwylliant o ddiweithdra ac anobaith. Mae hyn yn arwain at lefelau uwch o ddyled, teuluoedd yn chwalu, dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau, a throseddu.

“Er bod Ystadegau’r Farchnad Lafur a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn galonogol, a oedd yn dangos gostyngiad parhaus o 13,000 o ran Anweithgarwch Economaidd yng Nghymru, mae dal 492,000 o bobl yng Nghymru sy’n Anweithgar yn Economaidd ac mae’r rhelyw ohonynt yn ddibynnol ar fudd-daliadau. 

“Mae’n drasiedi bod cynifer ag un plentyn o bob pump yng Nghymru yn cael eu magu mewn teuluoedd lle nad oes yr un rhiant na’r llall yn gweithio. Heb sgiliau, hyder na modelau rol cadarnhaol, gallai’r bobl ifanc hyn aros wedi’u dal mewn cylch dieflig o ddiwylliant budd-daliadau a fydd yn falltod ar Gymru am genedlaethau i ddod.

Ychwanegodd Mrs Gillan: “Mae un Llywodraeth ar ol y llall wedi ceisio mynd i’r afael a diwygio’r wladwriaeth les heb lwyddiant, yn wir mae’r gost wedi codi ac mae’r broses wedi mynd yn fwy cymhleth.  Bydd y Mesur hwn yn sicrhau bod y system yn dychwelyd at ei bwrpas gwreiddiol sef darparu cymorth yn ddiamod i’r rheini sydd ei angen, a helpu pobl yn ol i waith a’i gwneud yn werth chweil iddynt aros mewn gwaith.

“Bydd y mesurau yn adfer tegwch i’r trethdalwr a thegwch i’r rheini sy’n hawlio budd-daliadau drwy sicrhau bod gwaith bob amser yn talu ffordd. Bydd Credyd Cynhwysol yn adfer tegwch a symlrwydd mewn system fudd-daliadau sy’n or-gymhleth, yn hen-ffasiwn ac yn gostus, ac yn aml mae’n rhwystr i bobl rhag mynd i mewn i’r gweithle.”

Bydd y Mesur yn gweddnewid system les Prydain drwy:

  • gael gwared a’r clytwaith o fudd-daliadau a chredydau amrywiol a’u disodli gan y Credyd Cynhwysol fel bod gwaith yn talu ffordd;
  • cyflwyno system briodol o amodau a sicrhau nad yw unigolion diegwyddor yn gallu camfanteisio ar y system na’i thwyllo;
  • sefydlu Taliad Personol Annibynnol ar gyfer pobl anabl er mwyn targedu cymorth at y rheini sydd wir ei angen;
  • creu system newydd o fudd-dal cynnal plant sy’n rhoi budd y plentyn yn gyntaf;
  • cyflwyno pwerau newydd i fynd i’r afael a phroblemau o ran twyll a gwallau.

Ceir rhagor o fanylion am y Mesur Diwygio Lles yn www.dwp.gov.uk/policy/welfare-reform/legislation-and-key-documents/welfare-reform-bill-2011/

Cyhoeddwyd ar 17 February 2011