Stori newyddion

Cheryl Gillan yn cwrdd ag arweinwyr busnes Cymru: Aelodau’r Grŵp Cynghori yn cwrdd yn Tata Steel

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cadeirio Grŵp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru heddiw [24ain Hydref] yn Tata Steel ym Mhort Talbot…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cadeirio Grŵp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru heddiw [24ain Hydref] yn Tata Steel ym Mhort Talbot.

Dyma bedwerydd cyfarfod y grŵp, y mae ei aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau busnes a sectorau hollbwysig megis gweithgynhyrchu, manwerthu, trafnidiaeth, ynni, a gwasanaethau ariannol, yn ogystal ag academyddion o Gymru. Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o Smart Solutions, Airbus a Dragon LNG ac aethant o amgylch safle Tata cyn cwrdd ag Ysgrifennydd Cymru i drafod yr amgylchedd busnes yng Nghymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae’n briodol bod pedwerydd cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes yn cael ei gynnal gan Tata Steel sef un o’r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru a buddsoddwr allweddol yn yr economi a’r gweithlu yn Ne Cymru. Rwyf wedi ymweld a’r safle ym Mhort Talbot ddwywaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fel Ysgrifennydd Cymru, a daeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Vince Cable, gyda mi’r tro diwethaf. Mae’r arweinyddiaeth a’r ymrwymiad a ddangosir gan reolwyr a gweithlu lleol Tata bob tro’n creu argraff arnaf.

“Gyda Llywodraeth Cymru o’r diwedd yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer Ardaloedd Menter yng Nghymru, fy ngobaith yw y bydd llawer mwy o gyfleoedd deniadol i fuddsoddi yng Nghymru, ar gyfer sefydliadau domestig a rhyngwladol. Fel yr ydym wedi’i drafod heddiw, yr unig ffordd o sicrhau twf economaidd wedi’i gynnal yw helpu busnesau i fuddsoddi ac i ehangu. Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i fuddsoddi miliynau yn y seilwaith y mae ar fusnesau ei angen i fuddsoddi yng Nghymru, megis band eang a thrydaneiddio rheilffyrdd. Mae’n hanfodol bod Cymru ar y blaen, yn aros yn gryf ac yn gystadleuol ac rwyf yn gwthio’n galed i gael buddsoddiad pellach ar gyfer rheilffyrdd y cymoedd, a fyddai’n rhoi hwb sylweddol i fynediad i’r farchnad swyddi.

“Mae Grŵp Cynghori ar Fusnes heddiw wedi cael cyfle i glywed gan fusnesau sy’n gweithio ar lawr gwlad yng Nghymru, ac sydd ar hyn o bryd yn wynebu cyfnod anodd, fel yr amlygwyd gan ystadegau diweddar am y farchnad lafur. Roedd cyfarfod heddiw yn gyfle i glywed beth mae busnesau yn ei wneud ac rwyf wedi gallu eu diweddaru am rai o’r camau gweithredu mae’r Llywodraeth yn eu cymryd i wella masnach, buddsoddiad ac amodau twf yn yr economi, gan gynnwys y prosiectau seilwaith mawr rydym wedi’u cyhoeddi, camau diweddar y “Red Tape Challenge”, gostwng Treth Gorfforaeth a cham nesaf yr adolygiad twf.

“Fel Ysgrifennydd Cymru, mae arnaf eisiau helpu i wella’r dirwedd a’r amodau ar gyfer busnesau a sefydliadau yng Nghymru mewn unrhyw ffordd y gallaf wneud hynny. Byddaf yn parhau i sicrhau bod Cymru wrth galon trafodaethau a datblygiadau sy’n effeithio ar y DU.”

Cyhoeddwyd ar 24 October 2011