Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn cwrdd â Richard Parks wrth i’r cloc dician yn nes at ‘her 737’

Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, groesawu’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymreig, Richard Parks, i Lundain heddiw (7fed Rhagfyr…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, groesawu’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymreig, Richard Parks, i Lundain heddiw (7fed Rhagfyr 2010), chwe diwrnod yn unig cyn iddo gychwyn ar ei her anoddaf erioed.

Cyfarfu Mrs Gillan a Richard yn ei swyddfa yn Nhŷ Gwydyr, a chynigiodd iddo ei chefnogaeth ar gyfer yr her codi arian arwrol er budd Gofal Canser Marie Curie. Ar ‘Her 737’ bydd Richard yn mynd ar daith saith mis faith, wefreiddiol, gan ddringo saith copa ar bob cyfandir ac os bydd yn llwyddo - ef fydd y cyntaf mewn hanes i sefyll ar dri phegwn yn ystod yr un flwyddyn galendr. 

Fel rhan o’i hyfforddiant ar gyfer y siwrnai, mae Richard Parks eisoes wedi wynebu tymheredd o dan y rhewbwynt, hypothermia clinigol a chwympiadau eira. Yn ystod yr her, bydd yn wynebu tymheredd deifiol o -40 gradd Celsius ym Mhegwn y Gogledd a bydd mewn perygl o ddioddef ewinrhew a salwch uchder. 

 Meddai Mrs Gillan: “Mae Richard yn ddewr dros ben ac yn benderfynol o gyflawni’r her hon - mae’r hyn y mae eisoes wedi bod drwyddo fel rhan o’i hyfforddiant yn aruthrol. Mae’n llysgennad gwych i Gymru ac yn wir ysbrydoliaeth i bobl ifanc. Rwyf wrth fy modd y bydd Gofal Canser Marie Curie yn elwa o daith Richard a dymunaf iddo bob llwyddiant”

Meddai Mr Parks:  “Mae’n fraint cael fy ngwahodd i Dŷ Gwydyr heddiw; mae’n anrhydedd mawr ac rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol. Gwn y bydd cael ei chefnogaeth yn rhoi hwb i broffil yr her ac yn help i godi arian i gynorthwyo Gofal Canser Marie Curie”.

Nodiadau

  • Mae’r her yn cynnwys Pegwn y De, Mynydd Vinson yn Ewrop (4,897m), Aconcagia yn Ne America (6,962m), Mynydd Kilimanjaro yn Affrica (5895m), Pyramid Carstensz yn Awstralasia (4,884m), Pegwn y Gogledd, Mynydd Everest yn Asia (8,850m), Mynydd Denali yng Ngogledd  America (6,194m) a Mynydd Elbrus yn Ewrop (5,642m).
  • I gael rhagor o wybodaeth am yr her neu i roddi, ewch i www.737challenge.com **
Cyhoeddwyd ar 7 December 2010