Cheryl Gillan yn helpu i lansio ‘Cronfa i Gymru’ ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi helpu i lansio elusen newydd sy’n ceisio cefnogi prosiectau a mentrau cefnogaeth gymunedol…
Mae Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi helpu i lansio elusen newydd sy’n ceisio cefnogi prosiectau a mentrau cefnogaeth gymunedol ledled Cymru.
Mae’r Gronfa Gymunedol yng Nghymru yn elusen annibynnol, sy’n hybu dyngarwch yng Nghymru ac sy’n cryfhau cymunedau lleol drwy ddarparu ffynhonnell barhaol o gyllid, gan adeiladu cronfeydd gwaddol ac ‘effaith ar unwaith’ i gysylltu rhoddwyr ag anghenion lleol.
Mae EUB Tywysog Cymru wedi cytuno i fod yn noddwr ar yr elusen.
Bu Mrs Gillan yn annerch derbyniad yn San Steffan ar noswyl lansio’r elusen ar Ddydd Gŵyl Dewi. Trafododd swyddogaeth y Gymdeithas Fawr yng Nghymru, yn ogystal a’r swyddogaeth gadarnhaol y gall dyngarwyr ei chwarae drwy alluogi elusennau a phrosiectau ar lawr gwlad yng Nghymru i ffynnu.
Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru: ‘Mae’r Gronfa i Gymru yn ymgorffori’r math o ysbryd cymunedol a diwylliant o wirfoddoli y mae’r Llywodraeth yn awyddus i’w hyrwyddo gyda’r Gymdeithas Fawr. Cafodd y Gronfa i Gymru ei chreu gan gymuned o roddwyr sydd wedi ymrwymo i wella bywydau rhai o’r grwpiau sydd fwyaf agored i niwed ac sydd ar y cyrion yng Nghymru. Mae hyn yn brawf bod gwir awydd am ddyngarwch yng Nghymru, ac awydd i ddod ynghyd ac i helpu ein gilydd ym mha ffordd bynnag y gallwn ni wneud hynny. Rwyf wrth fy modd bod y fenter hon sy’n gwella bywydau yn mynd o nerth i nerth.”