Datganiad i'r wasg

Cheryl Gillan yn siaradwr gwadd yng Ngwobrau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Heddiw, cyfarfu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ag enillwyr menter sy’n ailgysylltu ysgolion a chymunedau a threftadaeth Cymru mewn…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, cyfarfu Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ag enillwyr menter sy’n ailgysylltu ysgolion a chymunedau a threftadaeth Cymru mewn seremoni wobrwyo yng Nghastell Caerffili.

Bydd Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn ugain oed eleni, yn gwahodd holl ysgolion Cymru i gyflwyno prosiectau treftadaeth ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol.

Dywedodd Mrs Gillan:  “Mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn annog pobl ifanc o bob oed a gallu i gymryd rhan, ac mae’n chwarae rol bwysig wrth helpu i roi bywyd i’n treftadaeth gyfoethog ac amrywiol, a’i chadw er mwyn i’r cenedlaethau nesaf ei mwynhau.   

“Mae ein llinach yn rhan fawr o bwy ydym ni, a thrwy ddysgu gwersi o’r gorffennol a deall y rheini sydd o’n cwmpas - eu diwylliant, eu treftadaeth a’u cymunedau, eu credoau a’u traddodiadau - bryd hynny, gallwn ninnau werthfawrogi ein rhai ninnau. Dymunaf bob llwyddiant i Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn y dyfodol, gan obeithio y bydd yn parhau i addysgu ac ysbrydoli pobl Cymru am lawer mwy o flynyddoedd.”

Roedd Ysgrifennydd Cymru hefyd yn siaradwr gwadd yn y seremoni, a rhoddodd deyrnged i sylfaenwyr y fenter ac i gyflwynydd a noddwyr y gystadleuaeth eleni. Dymunodd hefyd bob dymuniad da i’r Foneddiges Danusia Trotman-Dickenson MBE sy’n Gadeirydd Gweithredol ar y fenter ers mwy nag ugain mlynedd, ac sydd bellach yn ymddeol. 

Nodiadau:

1.)   Mae Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cynnwys prosiectau ym maes hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau a diwylliant, yn ogystal a byd gwaith, amaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, y celfyddydau a chwaraeon. Yna, bydd y prosiectau treftadaeth yn cael eu cyflwyno ar gyfer cystadleuaeth genedlaethol.

2.)   Gall ysgolion gyflwyno prosiectau sy’n rhan o’r cwricwlwm, neu gallant adlewyrchu gwaith y mae’r ysgol wedi’i wneud i nodi adeilad, person neu ddigwyddiad lleol. Bydd y prosiectau gorau yn y categoriau ar gyfer ysgolion babanod, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd i gyd yn cael Tarian Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, a roddir gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd ar 11 July 2011