Gwiriwch enw eich asiant ardrethi busnes
Gwnewch yn siŵr bod enw eich asiant ardrethi busnes yn ein system yn cyfateb i'ch contract.

Os ydych chi am ddefnyddio asiant i reoli eich ardrethi busnes, mae angen i chi eu penodi yn ein gwasanaeth Gwirio a Herio.
Ond os nad yw enw’r asiant yn ein gwasanaeth yn cyfateb i’r enw ar eich contract, dylech fod yn ofalus. Dylech ddweud wrthym drwy gysylltu ag agentstandards@voa.gov.uk.
Gallwch hefyd ddarganfod pa mor hir y mae asiant wedi bod yn defnyddio ei henw busnes cyfredol. Gallwch gael gwybodaeth am gwmni am ddim.
Efallai y bydd rhai asiantau twyllodrus yn newid eu henw yn aml.
Mae ein safonau i asiantaid VOA yn nodi disgwyliadau clir ar gyfer asiantau ynghylch:
- eu hymddygiad
- eu hymarfer proffesiynol
- y gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu i’w cwsmeriaid
Rydym yn cymryd unrhyw fethiant i gyfarfod â’n safonau asiant yn ddifrifol. Byddwn bob amser yn cymryd camau os byddwn yn darganfod bod y safonau wedi’i torri.
Dylech fod yn ofalus o unrhyw asiant sy’n:
- ceisio rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad neu lofnodi contract
- dweud eu bod yn gweithredu ar ran y VOA neu’n anfon negeseuon e-bost ymlaen y maent yn honni eu bod gan y VOA
- mynnu symiau mawr o arian ymlaen llaw
- gwneud honiadau am ‘gredydau heb eu hawlio’ neu honiadau tebyg
Cofiwch - nid oes rhaid i chi ddefnyddio asiant i reoli eich ardrethi busnes.
Gallwch herio’ch gwerth ardrethol trwy ein gwasanaeth ar-lein. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i’w ddefnyddio.
Os ydych chi eisiau i asiant reoli eich ardrethi busnes, defnyddiwch ein rhestr wirio i ddewis asiant. Peidiwch â gadael i asiant eich dewis chi.
Gall defnyddio asiant sy’n aelod o gorff proffesiynol roi sicrwydd ychwanegol gan y byddant yn ddarostyngedig i reolau a rheoliadau’r corff hwnnw. Mae’r Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw, Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a Chymdeithas y Syrfewyr Ardrethu wedi cyhoeddi safonau ar y cyd y dylai eu haelodau eu dilyn.
Mae gennym hefyd ganllawiau ar gadw’n ddiogel rhag sgamwyr.
Rydym yn casglu tystiolaeth o ymddygiad ac arferion gwael asiantau wrth wneud ein gwaith. Mae’r dystiolaeth hon yn ein galluogi i fynd i’r afael â materion neu bryderon yn rhagweithiol.
Os ydych chi’n pryderu am ymddygiad gwael gan asiant, anfonwch unrhyw dystiolaeth at agentstandards@voa.gov.uk.
Ni allwn eich cynghori ar faterion cytundebol a allai fod gennych gydag unrhyw asiant. Dylech gysylltu â llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Mae ganddyn nhw linell gymorth y gallwch ei ffonio ar 0808 223 1144, o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.
Os ydych chi’n credu bod busnes wedi torri’r gyfraith neu wedi gweithredu’n annheg, gallwch chi hefyd eu riportio i Safonau Masnach drwy Gyngor ar Bopeth.
Os ydych chi’n credu eich bod chi’n ddioddefwr twyll, gallwch chi riportio hyn i ‘Action Fraud’.