Stori newyddion

Newidiadau i ffioedd atwrneiaeth arhosol: 2025

Diweddariad ar y cynnydd i ddod mewn ffioedd atwrneiaeth arhosol.

Yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol, bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn codi’r ffi cais am atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddiweddarach eleni.

Bydd y ffi yn codi o £82 fesul cais LPA i £92. Bydd y ffi newydd yn daladwy ar gyfer ceisiadau LPA a dderbyniwyd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) o 17 Tachwedd 2025. 

Bydd y ffi newydd yn sicrhau bod incwm o geisiadau LPA yn cwrdd â chost y gwasanaethau a ddarperir gan OPG yn well.

Efallai bod gan y ceiswyr LPA hawl i esemptiad (dim ffi) neu ostyngiad i ffi, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau ariannol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am y cynllun yma.

Caiff ffioedd eu hadolygu yn unol â chanllawiau Trysorlys Ei Fawrhydi Rheoli Arian Cyhoeddus.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Awst 2025