Stori newyddion

Newidiadau i lythyron rhybudd o ddileu

O fis Ionawr 2016 byddwn yn newid sut y byddwn yn anfon llythyron rhybudd o ddileu a'r hyn y byddant yn ei gynnwys.

O 11 Ionawr byddwn yn rhoi’r gorau i anfon llythyron rhybudd o ddileu trwy’r post at gwsmeriaid proffesiynol nad ydynt wedi ymateb yn llawn i ymholiad o fewn 15 diwrnod.

O 11 Ionawr, dim ond trwy ebost y byddwn yn anfon y llythyron hyn ac ni fydd y llythyron yn nodi pa bwyntiau’r ymholiad sy’n weddill.

Ni fydd hyn yn effeithio ar geisiadau gan gwsmeriaid sy’n ddinasyddion.

Yr hyn y mae angen i gwsmeriaid proffesiynol ei wneud

Er mwyn parhau i dderbyn y llythyron atgoffa hyn, rhaid i chi:

  • gynnwys eich cyfeiriad ebost yn y panel priodol ar ein ffurflenni cais
  • sicrhau bod eich ffurflenni cais templed sydd wedi’u llenwi’n rhannol yn cynnwys cyfeiriad ebost yn y panel priodol

Caiff holl ohebiaeth y Gofrestrfa Tir ei hanfon trwy ebost lle y bo’n bosibl os bydd cyfeiriad ebost wedi’i gynnwys ar y ffurflen gais.

Mae dileu papur o’r broses hon yn rhan o’n gwaith o ddigideiddio ein systemau a’n prosesau. Mae hyn yn creu trywydd archwilio ar-lein ar gyfer ein cwsmeriaid ac ar ein cyfer ni ac mae’n galluogi pob un ohonom i weithio’n fwy effeithlon. Yn ogystal, mae’n ein helpu i baratoi i ddod yn sefydliad mwy digidol ac i gyflwyno’r gwasanaethau ar-lein newydd rydym yn eu datblygu, megis Digital Register a Digital Mortgage.

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’ch tîm cwsmeriaid neu defnyddiwch ein ffurflen ymholiadau cyffredinol ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 20 November 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 November 2015 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.