Bydd ffyrdd newydd o roi yn hwb i elusennau, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru
Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi dweud y bydd bwriad y Llywodraeth i’w gwneud yn haws i roi yn hwb gwirioneddol i elusennau yng…
Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi dweud y bydd bwriad y Llywodraeth i’w gwneud yn haws i roi yn hwb gwirioneddol i elusennau yng Nghymru.
Mae Papur Gwyn y Llywodraeth ar Roi yn cynnig nifer o newidiadau a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl roi rhodd ac er mwyn ysgogi pobl i roi. Ceir hefyd amlinelliad o gamau newydd i gryfhau’r gefnogaeth i’r sector gyda’r gobaith y bydd hyn yn ysgogi gweithredu mwy cymdeithasol er mwyn adfywio cymunedau lleol, yn unol a gweledigaeth y Gymdeithas Fawr.
Dywedodd Mr Jones: “Rydym am gyfleu’r neges bod sawl dull a modd o gefnogi eich cymuned, gyda banciau amser a systemau credyd yn dod yn fwy a mwy poblogaidd.
“Bydd cynlluniau newydd i gynyddu rhoi drwy beiriannau ATM a ffonau symudol yn apelio at y to iau yn ogystal ag at y rhai sy’n brin o amser. Bydd hwylustod bancio amser a rhoddion electronig uniongyrchol yn hwb mawr i elusennau a mudiadau sy’n dibynnu ar roddwyr a gwirfoddolwyr i’w helpu i roi gwasanaethau a chefnogaeth i gymunedau lleol.”
Dywedodd y Gweinidog bod traddodiad gwych eisoes yn bodoli yng Nghymru o safbwynt ysbryd cymunedol a bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gydweithio a gweinyddiaethau datganoledig i archwilio sut y gellir gwella’r agenda Rhoi yng Nghymru.
Ychwanegodd Mr Jones: “Rydym wedi chwilio’r Deyrnas Unedig i gyd i ganfod yr enghreifftiau gorau o roi er mwyn cael sylfaen i adeiladu arni - ac rydym o’r farn bod ‘SPICE’, mudiad credydau amser De Cymru, yn fodel y gellid ei ddilyn er mwyn cyflawni’r agenda Rhoi yn effeithiol. Mae hyn yn dangos bod Cymru eisoes wedi mabwysiadu dull arloesol o roi, ac edrychwn ymlaen at gydweithio a Llywodraeth newydd Cymru i archwilio sut y gall pobl Cymru elwa o fentrau eraill sydd wedi’u cynnwys yn y papur.
I weld y Papur Gwyn, ewch i: www.cabinetoffice.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am ‘SPICE’, ewch i: www.justaddspice.org