Newid i ddogfennau sy'n ofynnol ar gyfer cofrestriad cyntaf
O 7 Medi rydym yn newid y dogfennau sydd eu hangen arnom wrth i gwsmer wneud cais i gofrestru Cofrestriad Cyntaf.

Os yw’r cais am Gofrestriad Cyntaf yn seiliedig ar ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, ni fydd angen i gwsmeriaid anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol atom o hyn ymlaen os:
- nad yw dogfennau teitl ar gael, neu
- os yw’r teitl yn cael ei hawlio trwy feddiant gwrthgefn tir digofrestredig
Rydym wedi cyhoeddi ‘cyfarwyddyd y cofrestrydd’ sy’n cadarnhau’r gofynion newydd.
Os yw rhai, ond nid pob un o’r gweithredoedd a’r dogfennau sy’n gysylltiedig â’r teitl, o fewn rheolaeth y ceisydd, ni fydd y cyfarwyddyd hwn yn berthnasol. Mewn achosion o’r fath, rhaid anfon y gweithredoedd a’r dogfennau gwreiddiol gyda’r cais, ynghyd â datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd sy’n gysylltiedig â’r gweithredoedd a’r dogfennau a gollwyd.
Dim ond ar gyfer ceisiadau a gyflwynir trwy’r post, cyfnewidfa dogfennau a chyflwyno’n bersonol y mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol.
Mae’r newid hwn yn dod â gofynion Cofrestriad Cyntaf yn agosach at ofynion mathau eraill o geisiadau. Rydym yn disgwyl y bydd yn haws i gwsmeriaid anfon y wybodaeth angenrheidiol atom a bydd yn haws i ni ei phrosesu, trwy leihau faint o ddogfennau gwreiddiol y mae angen i ni eu trin.