Stori newyddion

Y Canghellor i ddarparu £350m ychwanegol i fynd i'r afael â’r Coronafeirws yng Nghymru

Mae’r Canghellor wedi cadarnhau y bydd yn rhoi £350m pellach i helpu’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i fynd i'r afael â’r coronafeirws

Money

Cyhoeddodd y Canghellor Rishi Sunak fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi £350m ychwanegol i helpu’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Oherwydd bod y gronfa ymateb i argyfwng y coronafeiwrs wedi cael hwb ariannol, bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn cael £350 miliwn ar ben y £250 miliwn a neilltuwyd iddi o’r gronfa gwerth £5 biliwn. Bydd hyn yn codi cyfanswm yr arian a roddwyd i Gymru gan y Trysorlys i £600m, a fydd yn helpu’r weinyddiaeth ddatganoledig i fynd i’r afael â blaenoriaethau brys yng Nghymru wrth iddi weithio gyda Llywodraeth y DU i ddelio â’r pandemig.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak:

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus a’u staff anhygoel yn mynd ati’n benderfynol ac yn ddewr i ddefnyddio eu sgiliau arbennig er mwyn ein cadw ni’n ddiogel. Rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw, a dyna pam rydyn ni’n darparu’r cyllid, yr offer a’r adnoddau ychwanegol sydd eu hangen arnyn nhw i fynd i’r afael â’r feirws.

O’r cychwyn cyntaf, rydw i wedi bod yn glir y bydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw i amddiffyn y wlad hon a’i phobl rhag y Coronafeirws. Rydyn ni’n cadw at ein haddewid.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r Canghellor wedi addo gwneud beth bynnag mae angen ei wneud i helpu’r DU i drechu’r Coronafeirws. Mae’r £350 miliwn o gyllid ychwanegol yn cadw at yr addewid hwnnw.

Rydyn ni’n helpu’r weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru i oresgyn yr heriau eithriadol mae’n eu hwynebu ar hyn o bryd, drwy ddarparu £600 miliwn o’r gronfa i helpu i fynd i’r afael â’r coronafeirws. Mae hyn ar ben y cyllid sydd wedi’i neilltuo i helpu unigolion a busnesau, a byddwn yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen ar ein staff rheng flaen i achub bywydau. Mae hyn yn golygu y bydd Cymru yn cael hwb o bron i £2 biliwn gan Lywodraeth y DU i’w helpu i fynd i’r afael â’r Coronafeirws yng Nghymru.

Mae pobl yng Nghymru hefyd yn cael budd o amryw o fesurau sy’n helpu pobl ledled y DU. Mae Lluoedd Arfog y DU yn darparu arbenigedd a sgiliau arbenigol ychwanegol i Lywodraeth Cymru a’r GIG; mae gan fusnesau yng Nghymru fynediad at y Cynllun Cadw Swyddi a gwerth £330 biliwn o fenthyciadau a gefnogir gan Lywodraeth y DU; a, ddydd Gwener, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd y strategaeth PPE ar gyfer y DU gyfan. Mae hyn yn golygu y bydd ein gweithwyr dewr ar y rheng flaen yng Nghymru yn cael yr offer diogelwch sydd ei angen arnyn nhw i fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws.

Yn y Gyllideb ar 11 Mawrth, fe wnaeth y Canghellor neilltuo cronfa gwerth £5bn fel ymateb brys i’r pandemig. Erbyn hyn, bydd dros £14bn yn mynd tuag at wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y GIG ac awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd ar 14 April 2020