Ad-daliadau am dystysgrifau: cwmnïau tramor a heb eu cofrestru
Gallwch wneud cais am ad-daliad os ydych wedi prynu tystysgrif corffori ar gyfer cwmnïau tramor neu heb eu cofrestru oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau.

I rai cwmnïau nid oes angen tystysgrif ymgorffori neu gofrestru oddi wrthym.
Y cwmnïau hyn yw:
- Cwmnïau tramor
- Cwmnïau atebolrwydd cyfyngedig cyhoeddus Ewropeaidd
- Cwmnïau heb eu cofrestru
Ni fyddwn yn cyhoeddi tystysgrifau o statws cydnabyddedig (‘Certificates of Good Standing’) na chopïau ardystiedig o’r ddogfen gofrestru ar gyfer y cwmnïau hyn mwyach.
Os ydych wedi prynu’r cynhyrchion hyn ar gyfer y cwmnïau uchod yn uniongyrchol oddi wrthym ni, mae gennych hawl i gael ad-daliad.
Sut i gael ad-daliad
I wneud cais am ad-daliad, anfonwch brawf prynu a’ch cais at:
Lynda Brown
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
Nid oes terfyn amser i anfon hawliad am ad-daliad atom ni.
Swm yr ad-daliad
Gan ddibynnu ar sut yr oeddech wedi archebu’r cynnyrch, cewch y costau canlynol yn ôl:
Ar gyfer tystysgrif corffori neu gofrestru: | |
---|---|
Trwy’r post neu o’i chasglu | £15 |
Tystysgrif corffori yr un diwrnod trwy’r post neu o’i chasglu | £50 |
Tystysgrif ychwanegol (i’r un cwmni) trwy’r post neu o’i chasglu | £10 |
Ar gyfer copi ardystiedig: | |
---|---|
Trwy’r post neu o’i chasglu | £15 |
Copi ardystiedig yr un diwrnod o ddogfen trwy’r post neu o’i chasglu | £50 |
Cyflenwyr trydydd parti
Os oeddech wedi prynu’r cynnyrch oddi wrth gyflenwr trydydd parti, bydd angen ichi gysylltu â’r cwmni y prynasoch y wybodaeth oddi wrtho. Dim ond i gwsmeriaid a brynodd oddi wrthym ni’n uniongyrchol y gallwn roi ad-daliadau.
Ymholiadau
Os oes arnoch angen rhagor o gyngor, anfonwch neges e-bost at enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch ein canolfan gysylltu ar 0303 1234 500.