Stori newyddion

Alun Cairns yn dathlu rhagoriaeth busnesau Cymru yng ngwobrau Twf Cyflym 50

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn mynychu'r Fast Growth 50 Awards yng Nghaerdydd i ddathlu busnesau Cymru.

Heno (nos Wener) bydd Alun Cairns yn dathlu llwyddiannau rhai o gwmnïau mwyaf deinamig Cymru yng ngwobrau Twf Cyflym 50.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn siarad yn y digwyddiad blynyddol sy’n cael ei gynnal gan y Western Mail.

Hon yw deunawfed flwyddyn y digwyddiad a gafodd ei ddyfeisio gan Dylan Jones-Evans, Athro Entrepreneuriaeth a Strategaeth yn Ysgol Fusnes Bryste.

Bydd Mr Cairns yn dweud wrth y gynulleidfa:

Gwaith caled ac ymroddiad y cwmnïau sydd yn yr ystafell hon sy’n gyfrifol am y ffaith mai yng Nghymru y gwelwyd y twf cyflymaf y tu allan i Lundain ers 2010.

Diolch i’ch arbenigedd a’ch ymrwymiad, mae 22,000 yn fwy o fentrau bach a chanolig yng Nghymru nag yr oedd yn 2010.

Y bydd Brexit yn her i fusnesau - ond bod economi Cymru mewn sefyllfa dda i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd newydd.

Mae Twf Cyflym 50 yn cynnwys cwmnïau o bob rhan o economi Cymru, gan gynrychioli’r llwyddiant ar draws ein gwlad yn ogystal â dangos dawn, dyfalbarhad a gwaith caled entrepreneuriaid Cymru wrth iddynt greu cyfoeth a chyflogaeth.

Byddwn yn wynebu heriau, ond mae Cymru yn dal i fod yn lle gwych i wneud busnes, ac rwy’n credu’n gryf fod gennym lwyfan anhygoel i adeiladu arno wrth i ni adael yr UE.

Cyhoeddwyd ar 21 October 2016