Bydd Cymru’n rhoi croeso cynnes i dîm o’r Caribî cyn y gemau Olympaidd, dywed Cheryl Gillan
Bydd Cymru’n rhoi croeso cynnes i dim Trinidad a Tobago pan fyddant yn cyrraedd Caerdydd i baratoi cyn y gemau Olympaidd yn 2012, dywedodd Cheryl…

Bydd Cymru’n rhoi croeso cynnes i dim Trinidad a Tobago pan fyddant yn cyrraedd Caerdydd i baratoi cyn y gemau Olympaidd yn 2012, dywedodd Cheryl Gillan Ysgrifennydd Cymru.
Croesawodd Mrs Gillan y newyddion bod pwyllgor gemau Olympaidd y wlad Garibiaidd wedi dewis Caerdydd fel lleoliad i’w thim baratoi ar gyfer y gemau Olympaidd yn Llundain.
Dywedodd: “Mae athletwyr Olympaidd o Drinidad a Tobago yn sicr o gael croeso Cymreig cynnes a brwdfrydig wrth iddynt wneud eu paratoadau terfynol ar gyfer y gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.
“Mae’r penderfyniad hwn yn cydnabod ansawdd y cyfleusterau chwaraeon a’r seilwaith hyfforddiant sydd ar gael yng Nghymru. Gobeithiaf yn awr weld timau Olympaidd eraill yn dilyn esiampl Trinidad a Tobago a gwneud Cymru yn gartref iddynt hwy hefyd ar gyfer y gemau Olympaidd yn 2012.”