Datganiad i'r wasg

Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ymuno ȃ’r peilot Fisa Myfyrwyr

Prifysgolion o Gymru’n ymuno â rhestr o 23 o sefydliadau sy’n cymryd rhan yn rhaglen Llywodraeth y DU i ddenu myfyrwyr rhyngwladol.

Mae peilot sy’n ceisio gwneud y broses i fyfyrwyr Meistr rhyngwladol sydd eisiau astudio yn y DU yn fwy effeithlon wedi cael ei ymestyn i gynnwys dwy brifysgol yng Nghymru, cyhoeddodd y Gweinidog Mewnfudo heddiw (dydd Llun 18 Rhagfyr).

Yn ei ail flwyddyn ar hyn o bryd ym Mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Caerfaddon a Choleg Imperial Llundain, bydd y peilot yn gwneud y broses yn fwy effeithlon i fyfyrwyr rhyngwladol sydd eisiau astudio ar gwrs Meistr 13 mis neu lai yn y DU. Hefyd mae’n rhoi mwy o gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n dymuno newid at fisa gwaith a chymryd rôl graddedigion, fel eu bod yn cael aros yn y DU am 6 mis ar ôl gorffen eu cwrs.

Mae’r prifysgolion sy’n cymryd rhan yn cael cyfrifoldeb am archwiliadau cymhwysedd, gan olygu bod y myfyrwyr yn gallu cyflwyno llai o ddogfennau na’r hyn sy’n ofynnol yn y broses bresennol ochr yn ochr â’u ceisiadau fisa. Bydd yr ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni rheolau mewnfudo’n cael eu gwrthod. Bydd y myfyrwyr i gyd yn parhau i fod angen archwiliadau diogelwch a hunaniaeth y Swyddfa Gartref.

Mae’r 23 o brifysgolion ychwanegol a fydd yn elwa o’r peilot yn cynnwys Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ogystal â dwy yn yr Alban, un yng Ngogledd Iwerddon a phrifysgolion o bob cwr o Loegr.

Dywedodd y Gweinidog Mewnfudo, Brandon Lewis:

Mae’n bleser cael cyhoeddi ehangu’r peilot yma, sy’n rhan o’n gweithgarwch parhaus ni i sicrhau bod ein sefydliadau mwyaf blaenllaw ni yn y byd yn parhau’n hynod gystadleuol.

Mae’r DU yn parhau i fod yr ail gyrchfan mwyaf poblogaidd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac mae’r nifer sy’n dod i astudio yn ein prifysgolion ni wedi cynyddu 24% ers 2010.

Dyma arwydd clir bod croeso i fyfyrwyr didwyll ac nad oes cyfyngiad ar y nifer sy’n gallu dod i astudio yn y DU.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan:

Rydyn ni’n croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y peilot fisa Haen 4 wedi’i ehangu. Mae Prifysgol Caerdydd yn gartref i fwy na 7,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 100 o wledydd ac rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith gadarnhaol maen nhw’n ei chael, ar ein cymuned ni ac ar economi Caerdydd a Chymru.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan ym mheilot y fisa Haen 4 a’i werthusiad, i roi’r cyfleoedd maen nhw’n eu haeddu i’n myfyrwyr rhyngwladol ni ac i gryfhau ein partneriaethau byd-eang.

Mae ystadegau diweddaraf y Swyddfa Gartref yn dangos bod nifer y myfyrwyr sy’n gwneud cais am fisas wedi cynyddu 8% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae cynnydd o 9% wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n gwneud cais i brifysgolion y Russell Group.

Bydd y 23 o brifysgolion ychwanegol yn gallu gweithredu’r peilot gyda’r myfyrwyr maent yn eu derbyn yn 2018/19. Dewiswyd y prifysgolion gan fod eu cyfraddau gwrthod fisa ar eu hisaf yn gyson yn eu hardal neu eu rhanbarth.

NODIADAU I OLYGYDDION

  • Dyma’r 23 o brifysgolion a fydd yn cael eu hychwanegu at y peilot: Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Goldsmiths yn Llundain, Prifysgol Harper Adams, Prifysgol Newcastle, Prifysgol Queen’s Belffast, The Royal Central School of Speech and Drama, Prifysgol Bryste, Prifysgol Durham, Prifysgol Dwyrain Anglia, Prifysgol Caeredin, Prifysgol Essex, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Caerlŷr, Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Manceinion, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Reading, Prifysgol Sheffield, Prifysgol Southampton, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Campws Abertawe), Prifysgol Warwick, Prifysgol Caerefrog
Cyhoeddwyd ar 18 December 2017