Stori newyddion

Caerdydd yn sicrhau buddsoddiad £11.9 miliwn mewn band eang

Bydd economi Caerdydd yn cael hwb yn dilyn cyhoeddiad heddiw y bydd £11.9 miliwn yn cael ei buddsoddi ym mand eang y ddinas. Heddiw, croesawodd…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd economi Caerdydd yn cael hwb yn dilyn cyhoeddiad heddiw y bydd £11.9 miliwn yn cael ei buddsoddi ym mand eang y ddinas.

Heddiw, croesawodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, y newyddion y bydd Caerdydd yn elwa o fuddsoddiad gwerth £11.9 miliwn yn ei seilwaith band eang.

Bydd y buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw (20 Medi) gan yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant, Maria Miller, yn helpu i drawsnewid Caerdydd yn ‘ddinas cysylltiadau cyflym’.  Drwy gynnig y seilwaith sydd ei angen ar gwmniau technoleg-uchel a digidol, bydd y ddinas yn gallu cystadlu am fusnes, buddsoddiad a swyddi yn erbyn rhai o ddinasoedd digidol gorau’r byd.

Bydd Caerdydd yn ymuno a thair prif ddinas arall y DU, Birmingham, Bryste, Leeds a Bradford, Newcastle a Manceinion, i rannu’r gronfa dinas cysylltiadau cyflym sy’n werth £114 miliwn.  Bydd yn helpu i ddarparu band eang cyflym iawn (o leiaf 80-100Mbps) a chysylltiad diwifr cyflym iawn i’r Rhyngrwyd.

Mae’r Llywodraeth yn trawsnewid seilwaith digidol y DU fel un o brif sbardunwyr swyddi a thwf economaidd.  Mae’n buddsoddi cyfanswm o £830 miliwn i ddarparu’r band eang gorau yn Ewrop ac ymestyn derbyniad ffonau symudol. 

Mae dyraniadau heddiw yn dilyn cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd dros Ddiwylliant yr wythnos diwethaf ynghylch cynlluniau i gael gwared a’r biwrocratiaeth cynllunio sy’n achosi oedi o ran cyflwyno band eang cyflym iawn ledled y wlad.

Mae cynlluniau Caerdydd yn cynnwys sicrhau cysylltiad band eang cyflym iawn mewn oddeutu 29,000 o eiddo preswyl a 2,100 o fusnesau ychwanegol yn ogystal a gwasanaeth cyflym a diwifr i fwy fyth.  Dylai’r cynlluniau gael eu cyflawni erbyn 2015.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:  
 
“Bydd y cyllid y bydd Caerdydd yn ei dderbyn ar gyfer ei statws dinas cysylltiadau cyflym yn darparu’r sylfaen i’w busnesau ehangu, datblygu marchnadoedd newydd a chystadlu ag eraill ledled y byd. Bydd hefyd yn caniatau i’w chymunedau gael rhagor o wasanaethau ar-lein yn gyflymach ac yn fwy effeithlon.

“Mae sicrhau’r amodau iawn a’r seilwaith priodol i fusnesau dyfu yn flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth hon. Mae band eang yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer bywyd bob dydd, ond hefyd ar gyfer dyfodol economaidd llwyddiannus Cymru a’r DU yn ei chyfanrwydd, ac rydyn ni’n parhau i weithio ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru yn ein hymdrechion i gyflawni hynny ar y cyd.”

Cyhoeddwyd ar 20 September 2012